grŵp o bobl yn sefyll mewn cylch gyda goleuadau lliwgar y tu ôl iddynt a dyfeisiau electronig o’u blaenau
©

Shutterstock 

Mae British Council Cymru’n falch iawn i gyhoeddi bod 22 o grantiau wedi eu dyfarnu i artistiaid a sefydliadau celfyddydol o Gymru i ddatblygu prosiectau cydweithredol yn Ewrop.

Mae gan sector celfyddydau Cymru lawer o gysylltiadau sydd wedi eu sefydlu ers tro yn Ewrop ac mae’n cymryd rhan ar lwyfannau rhyngwladol o bwys fel Classical Next, Biannale Fenis a gwyliau mawr fel Le Festival Interceltique de Lorient, Cannes ayb.

Wrth ystyried cyd-destun y newidiadau sydd ar fin digwydd o fewn i’r Undeb Ewropeaidd, mae’r gronfa yma’n ariannu artistiaid a sefydliadau celfyddydol o Gymru fel y gallant gryfhau neu feithrin perthnasoedd a rhwydweithiau gyda chyfoedion Ewropeaidd a chyfrannu i fentrau ymchwil neu beilot i sicrhau cydweithio yn y dyfodol. 

Avant Cymru

Bydd cwmni theatr Avant Cymru o Gymoedd y De yn cyflwyno breg-ddawnsio a dawns hip hop o Gymru yn Notorious IBE, gŵyl ryngwladol sy’n dathlu Hip Hop a Breg-ddawnsio Dinesig yn Heerlen yn yr Iseldiroedd.

Wrth gynrychioli Cymru ar y llwyfan breg-ddawnsio Ewropeaidd maen nhw’n creu cysylltiadau gyda’r dawnswyr rhyngwladol gorau gan ddatblygu eu rhwydwaith gyda breg-ddawnswyr o Ewrop a phob rhan o’r byd a hyrwyddo’r cyfleoedd sydd ar gael yn y sîn theatr breg-ddawnsio a hip hop yng Nghymru. Mae hynny’n cynnwys y Full Circle Breakin’ Jam 2019, cystadleuaeth sy’n cael ei chynnal ym Mhorth yn y Rhondda ym mis Hydref 2019.

Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn gweithio yn Llydaw i ddatblygu cyfres o weithgareddau ar y cyd â L’Orchestre Sinfonique de Bretagne. Bydd y ddwy gerddorfa’n gweithio gyda’i gilydd dan arweiniad Grant Llewelyn, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth y Sinfonique de Bretagne i archwilio posibiliadau cydweithio yn y dyfodol. Fe allai hynny gynnwys perfformiad ar y cyd rhwng cantorion a cherddorion o Lydaw a Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC ym mis Mawrth 2020.

Bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC hefyd yn edrych ar ffyrdd o gyfuno gweithgareddau addysg ac allgyrch y ddwy gerddorfa er budd Cymru a Llydaw.

Chapter

Bu Andy Eagle, Cyfarwyddwr Chapter, canolfan aml-gelfyddydol yng Nghaerdydd, ar ymweliad â Fabrik, hyb creadigol yn Potsdam yn yr Almaen. Bu’n edrych ar fentrau ar y cyd rhwng artistiaid dawns yn ogystal ag ymchwilio i fodelau comisiynnu gyda golwg ar greu preswyliadau artistig. Mae Fabrik yn debyg i Chapter mewn sawl ffordd gan ei fod yn ganolfan sy’n comisiynu gwaith, a hefyd yn arbenigo mewn cefnogi artistiaid dawns sy’n dechrau dod i’r amlwg. Mae hwn yn faes y mae Chapter yn ei hyrwyddo yn ogystal â chefnogi artistiaid gweledol, perfformio a ffilm.

Yn ystod ail ran y prosiect, mynychodd Andy gynhadledd Trans Halle Europe yn Dresden yn yr Almaen lle cafodd gyfle i gwrdd â darpar bartneriaid o bob rhan o Ewrop a chael dealltwriaeth o’r diddordeb sydd gan y sector Ewropeaidd mewn meithrin perthynas â gwaith creadigol yng Nghymru.

Dirty Protest

Cwmni o Gaerdydd sy’n canolbwyntio ar ddramau newydd o Gymru yw Dirty Protest. Ym mis Mehefin 2019, bu Catherine Paskell, Cyfarwyddwr Artistig Dirty Protest yng nghynhadledd ‘Theatre Forum Ireland’. Cafodd gyfarfod yno gyda chynrychiolwyr o Fishamble, cwmni sy’n cefnogi a llwyfannu dramau newydd ac sy’n arfer cefnogi mwy na 50% o holl ddramau newydd Iwerddon bob blwyddyn. O ganlyniad, maent yn cydweithio i archwilio ffyrdd newydd o gefnogi datblygiad dramodwyr newydd a’u dramau, ac i gefnogi cymunedau ysgrifennu newydd yng Nghymru ac Iwerddon.

Yn ystod mis Hydref 2019 bydd artistiaid/ysgrifennwyr o Gymru ac Iwerddon yn cymryd rhan mewn menter breswyl yn stiwdios Fishamble i arbrofi gyda rhaglen gyfnewid ddiwylliannol.

Prosiect Forté

Rhaglen dan arweiniad tîm Gwasanaethau Celfyddydau a Diwydiannau Creadigol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yw Prosiect Forté. Mae’n rhaglen ddatblygu unigryw ar gyfer artistiaid cerddorol rhwng 16-25 oed sy’n byw yn Ne Cymru. Mae Prosiect Forté yn cydweithio gyda Talent Coach, cwmni o fwrdeistref Kalmar yn Sweden sy’n cefnogi cerddorion ifanc ac artistiaid sy’n dechrau dod i’r amlwg. Amcan y fenter yw creu cyfleoedd newydd a chyffrous i gerddorion ifanc o Gymru a Sweden i ddysgu, datblygu a sefydlu perthnasoedd artistig cynaliadwy. 

Ym mis Awst 2019, fe ymwelodd tîm Prosiect Forté â Sweden i gwrdd ag artistiaid ac arweinwyr Talent Coach yn ogystal â nifer o sefydliadau cerddoriaeth allweddol eraill yn y fwrdeistref gan gynnwys Lansmusiken i Kalmar, Destination Kalmar, Kalmar Kommun, Lanstinget Kalmar, Prifysgol Linnaeus, Folkhogskola, Studieforbundet, Sensus, Volt Studios, a Latitud 57. 

Gwobr Iris

Mae Gŵyl Ffilmiau Lesbaidd, Hoyw, Deurywiol a Thraws (LGBT+) Gwobr Iris yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd bob mis Hydref. Dyma’r wobr unigol fwyaf yn y byd am ffilm fer LGBT+. Bydd Gwobr Iris yn cynnal astudiaeth ddichonoldeb i bosibiliadau creu rhwydwaith traws-Ewropeaidd ar gyfer gwneuthurwyr ffilm LGBT+ i gefnogi datblygiad gwneuthurwyr ffilm LGBT+ ifanc a/neu wneuthurwyr ffilm LGBT+ sy’n dechrau dod i’r amlwg ar draws Ewrop. 

Mae Iris yn credu y byddai sefydlu rhwydwaith newydd yn annog cydweithio rhwng gwneuthurwyr ffilm LGBT+ Ewropeaidd, ac yn gyfrwng i ddatblygu sgiliau gwneuthurwyr ffilm i sicrhau bod mwy ffilmiau LGBT+ ar gael i’w dangos.

Grŵp Llanarth

Bydd Kaite O’Reilly a Phillip Zarrilli, gwneuthurwyr theatr o Grŵp Llanarth yng Ngheredigion, yn ymweld â Berlin i ddatblygu a chryfhau perthynas sy’n bodoli eisoes rhyngddynt â’r gymuned greadigol yno. Fe fyddan nhw’n dechrau gyda chyfnod ymchwil i bosibiliadau llwyfannu perfformiad yno yn y dyfodol yn ogystal ag ymweld â’r canolfannau allweddol sy’n rhaglenni perfformiadau ym Merlin.

Mae Grŵp Llanarth yn gymdeithas o artistiaid theatr/perfformio sy’n ymroi i gynhyrchu gwaith theatr a pherfformio rhyngwladol a rhyng-ddiwylliannol o’r radd flaenaf. Mae pob un o’u gweithiau yn cael eu dangosiad cyntaf yng Nghymru. Maen nhw wedi dechrau trafodaethau ynghylch teithio cynhyrchiadau yn yr Almaen, gan arwain at waith stiwdio wyneb yn wyneb yn Berlin ym mis Mawrth 2020.

Laura Drane

Mae Laura Drane yn gynhyrchydd creadigol annibynnol o Gaerdydd. Ym mis Tachwedd 2019 bydd Laura’n mynychu’r Atelier Gwyliau Ewropeaidd, gweithdy preswyl yn Ffrainc sy’n hwyluso cysylltiadau rhwng cynhyrchwyr a’u cyfoedion ar draws Ewrop a ledled y byd. Wrth rannu gwybodaeth am bosibiliadau Cymru ddatganoledig gyda darpar bartneriaid, mae hi’n gobeithio meithrin a datblygu rhwydweithiau ar gyfer sector celfyddydau Cymru.

Llenyddiaeth Cymru

I gydfynd â Blwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Cynhenid UNESCO, mae Llenyddiaeth Cymru, y cwmni cenedlaethol sydd â chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth yng Nghymru, yn ehangu datblygiad ei berthnasoedd strategol gyda sefydliadau llenyddiaeth cenedlaethol yn yr Alban a phartneriaid yn yr Almaen.

Cynhaliwyd digwyddiad peilot ym mis Mehefin 2019 yng Nghanolfan Astudiaethau Prydeinig Prifysgol Humboldt ym Merlin gyda’r nofelydd Cymreig, Alys Conran. Bu Alys yn arwain gweithdy gyda myfyrwyr sy’n astudio ei gwaith fel rhan o’r cwrs Meistr mewn Astudiaethau Prydeinig. Yn dilyn hyn, cynhaliwyd darlleniad cyhoeddus a thrafodaeth o’i gwaith.

I gydfynd â’r gweithgareddau peilot ym mis Mehefin, fe deithiodd Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru, ac aelodau o staff Llenyddiaeth Cymru i Berlin hefyd. Fe fuon nhw’n ymchwilio i bosibiliadau creu partneriaethau newydd, canolfannau newydd a darpar gydweithwyr gyda golwg ar greu digwyddiad aml-blatfform ar y cyd yn Berlin ym mis Tachwedd 2019.

Ym mis Tachwedd 2019, bydd dirprwyaeth, yn cynnwys beirdd o Gymru, Iwerddon a’r Alban a chynrychiolwyr o Lenyddiaeth Cymru, yn dychwelyd i Berlin ar gyfer digwyddiad panel sy’n cael ei gynnal yn y Ganolfan Astudiaethau Prydeinig yno. Rhagwelir y bydd y beirdd hefyd yn cymryd rhan mewn perfformiad yn un o’r canolfannau llenyddiaeth yn Berlin a enwyd uchod. Bydd yr holl weithgareddau hyn yn rhan o dymor o ddigwyddiadau a gynhelir yn Berlin yn ystod Hydref 2019 dan adain menter gan swyddfeydd llywodraethau Cymru, Yr Alban ac Iwerddon i hyrwyddo ieithoedd cynhenid.

Madeinroath

Gŵyl gelfyddydau gymunedol sy’n cael ei chynnal yng nghalon ardal y Rhath yng Nghaerdydd yw Madeinroath. Bydd dirprwyaeth o’r ŵyl yn arwain cyfnewidfa artistig gyda Nieuw en Meer, gofod creadigol cymunedol yn Amsterdam, i archwilio dulliau newydd o ddatblygu cymunedol.

Ym mis Awst 2019 fe gymerodd Madeinroath ran mewn prosiect preswyl yn Nieu en Meer. Am ddeg diwrnod, mewn pabell gloch arbennig, bu’r artistiaid Helen Clifford a Clare Charles yn cynnal gweithdai creadigol, cwrdd ag artistiaid fel Elly Baltus a Vera Broos, meithrin cysylltiadau a dysgu am fodelau gweithio a chynaliadwyedd newydd ar gyfer sefydliadau sy’n cael eu llywio gan artistiaid.

Wrth baratoi ar gyfer y preswyliad, bu’r ddau sefydliad yn cyfnewid eitemau drwy’r post. Danfonodd Madeinroath alabastr a gasglwyd o draethau ger Penarth yn Ne Cymru draw i’r Iseldiroedd; mewn ymateb, fe ddanfonodd Elly Baltus (artist o Amsterdam) weithiau celf wedi’u cerfio o alabastr a ffeindiwyd yn yr ardal o gwmpas Nieuw en Meer.

Menter Caerdydd

Bu tîm Tafwyl Menter Caerdydd ar ymweliad ymchwil â Llydaw gan fynychu Gouel Broadel ar Brezhoneg, gŵyl sy’n dathlu’r Llydaweg, i gyfnewid syniadau, meithrin partneriaethau a sbarduno posibiliadau creadigol ar draws ffiniau ac yn rhyngwladol.

Mae gŵyl Tafwyl wedi ennill ei phlwyf fel un o brif ddigwyddiadau diwylliannol a cherddorol Cymru sydd â’r iaith Gymraeg wrth galon y cyfan. Yn 2019, ymwelodd dros 37,000 o bobl â’r ŵyl dros dri diwrnod a chafwyd dros 50 o berfformiadau cerddorol ar draws pob math o lwyfannau yng Nghastell Caerdydd.

Cynhelir Gouel Broadel ar Brezhoneg ym mhentref gwledig Langoned yng nghanolbarth Llydaw. Mae’r ŵyl yn denu siaradwyr a chefnogwyr y Llydaweg i ddathlu a hyrwyddo’r iaith.

Ym mis Mehefin 2019, o ganlyniad uniongyrchol i’r ymweliad ymchwil, fe berfformiodd y grŵp roc amgen Cymraeg, Chroma, ar lwyfan Gouel Broadel ar Brezhoneg. Bythefnos yn ddiweddarach fe berfformiodd y grŵp pop-roc Llydaweg, UKAN, ddwy set yn Tafwyl. Hefyd, cyfranodd aelodau’r grŵp i fforwm drafod aml-ieithog bywiog fel rhan o weithgareddau pabell ‘Byw yn y Ddinas’, rhaglen o ddigwyddiadau a sgyrsiau ar agweddau o amrywiaeth ddiwylliannol a gweithio’n greadigol mewn ieithoedd lleiafrifol.

Migrations

Menter yng ngogledd Cymru yw Migrations sy’n anelu i ddod â chelfyddyd gyfoes ryngwladol i Gymru a datblygu cyfleoedd cydweithio arloesol, comisiynnau a phartneriaethau yng Nghymru a thu hwnt.

Bydd Migrations yn mynychu fforwm gwledig yn Nenmarc dan arweiniad Henk Keizer, Cyfarwyddwr Denmarc Wledig. Bydd yn gyfrwng iddynt greu cyfleoedd newydd a chyffrous i artistiaid sy’n gweithio gyda chymunedau gwledig. Bydd yn gyfle i rannu a datblygu eu gwaith gydag artistiaid rhyngwladol a chreu cyd-destun ar gyfer gwaith sy’n mynd i’r afael â newid yr hinsawdd a thrawsnewidiad ecolegol.

Trwy gyfrwng ei gwaith, mae Karine Décorne (Cyfarwyddwr Artistig Migrations) wedi datblygu ymarfer cadarn o ran gweithio gyda chelfyddydau cyfoes rhyngwladol mewn lleoliadau gwledig; mae wedi bod yn cwrdd â ffermwyr yng Ngogledd Cymru sy’n mynd i gyfrannu i’r prosiect.

Swyddfa Wledig Pensaernïaeth

Mae Niall Maxwell o Swyddfa Wledig Pensaernïaeth a’r artistiaid Owen Griffiths a Melissa Appleton am weld presenoldeb amlycach gan Gymru yn y Biannale Pensaernïaeth Ewropeaidd yn 2020. Maent am ddangos fod Cymru’n wlad eangfrydig sy’n parhau i fwrw ei golygon tuag Ewrop a thu hwnt.

Cyfnewidfa Greadigol L’albero - Operasonic

Bydd Cyfnewidfa Greadigol L’albero – Operasonic yn rhoi cyfle i’r ddau sefydliad celfyddydol yma i gyfnewid a rhannu ymarfer creu opera gyda chymunedau. Mae L’albero ac Operasonic wedi plannu eu hunain wrth galon eu cymunedau gan weithio gyda phobl ifanc yn eu dinasoedd. Ar hyn o bryd mae L’albero yn gweithio ar brosiect opera cymunedol mawr – Silent City – fel rhan o weithgareddau Blwyddyn Dinas Diwylliant Ewrop yn Matera yn ne’r Eidal. Mae Operasonic yn cefnogi gweithwyr ifanc ym maes opera i weithio gydag ysgolion a chymunedau yng Nghasnewydd i’w hannog i ddefnyddio eu dinas fel ysbrydoliaeth i greu eu hoperâu eu hunain.

Bydd y Gyfnewidfa Greadigol sy’n cael ei chynnal rhwng mis Medi 2019 a mis Mawrth 2020 yn cynnig cyfle i’r ddau sefydliad brofi ymarfer ei gilydd yn uniongyrchol yn y ddwy wlad. Bydd yn gyfle iddynt archwilio’r gwahaniaethau rhwng eu dulliau creu a gweithio yn ogystal â’r elfennau sy’n debyg rhyngddynt trwy gyfrwng sgyrsiau a thrafodaethau, ac wrth rannu eu casgliadau gyda phartneriaid lleol trwy gyflwyniadau.

Parthian

Bydd Parthian, cwmni cyhoeddi o Abertawe, yn arwain menter ar y cyd gyda chenhedlaeth newydd o ysgrifenwyr o Gymru ac Ewrop drwy gynnal preswyliad rhwng 8-10 Hydref 2019 ym Menter Rhos y Gilwyn yn Aberteifi i drafod syniadau am sut y gall golygyddion ac ysgrifenwyr feithrin cynulleidfaoedd rhyngwladol newydd ac amrywiol. Wedi ymweliad ymchwil â Ffair Lyfrau Paris, bydd yr awduron Hanan Issa a Durre Shawar o Gymru yn arwain y preswyliad ar y cyd â Mai Do Hamisultane o Ffrainc.

Paul Jenkins a Gethin Evans

Ym mis Gorffennaf 2019, bu Paul Jenkins a Gethin Evans, gwneuthurwyr theatr o Gaerdydd,  ar ymweliad ymchwil a datblygu â Soffia ym Mwlgaria. Fe fuon nhw’n gwylio ymarferion a mynychu perfformiadau a rhannu ymarfer creadigol gyda gwneuthurwyr theatr arbrofol o Dde-ddwyrain Ewrop.

Mae Gethin a Paul yn gyfarwyddwyr sydd â diddordeb arbennig mewn theatr gorfforol ac arbrofol. Nod y daith yma oedd datblygu rhwydweithiau sydd wedi sefydlu eisoes yn ogystal â meithrin rhai newydd i rannu ymarfer creadigol gyda rhai o gwmnïau theatr labordy amlycaf Ewrop gan gynnwys y cwmnïau Bwlgaraidd, Alma Alter a gweithdy Theatr Sfumato.

Mae’r cwmnïau yma’n cynnig hyfforddiant ensemble a model o theatr sefydlog arbrofol Ewropeaidd nad oes dim tebyg iddo ym Mhrydain ar hyn o bryd.

Yn Hydref 2019 fe fyddan nhw’n cynnal gweithdy yng Nghaerdydd ar gyfer artistiaid o Gymru a/neu artistiaid sy’n gweithio yng Nghymru i rannu eu profiadau a’u canfyddiadau o ymarfer creadigol.

Sefydliad Diwylliannol - Prifysgol Abertawe

Yn ystod Gorffennaf 2019 aeth cynrychiolwyr o’r Sefydliad Diwylliannol ym Mhrifysgol Abertawe i Ŵyl Gelfyddydau Rhyngwladol Galway yn Iwerddon a Gŵyl Santiago de Compostela yn Sbaen i feithrin cysylltiadau gyda gwneuthurwyr theatr sy’n creu gwaith dwyieithog ac archwilio perthnasau traws-ddiwylliannol drwy ymarfer theatrig a dwyieithrwydd.

Bydd y Sefydliad Diwylliannol hefyd yn arwain fforwm drafod a gweithdy peilot yn Abertawe gyda chyfranogwyr y gwnaethon nhw eu cwrdd yn y gwyliau yn Iwerddon a Sbaen.

tactileBOSCH

Mae tactileBOSCH yn gwmni cydweithredol o artistiaid o Gaerdydd sy’n arbenigo mewn celf perfformio, celf aml-gyfrwng a mewnosodiadau creadigol safle-benodol. Trwy ddatblygu rhwydweithiau yn Leipzig a Dresden yn yr Almaen, maent am archwilio cyfleoedd i gyflwyno a churadu celfyddydau gweledol blaengar yn rhyngwladol gan feithrin a dathlu cynhwysiant ac archwilio platfformau sy’n creu amodau i hyrwyddo cysylltiadau a dealltwriaeth.

Trac

Wedi tair blynedd o rwydweithio ac ymgynghori ffurfiol, mae trac, ar y cyd â phartneriaid ar draws Ewrop, wedi creu’r Rhwydwaith Gwerin Ewropeaidd i hyrwyddo a chefnogi cydweithio a chysylltiadau ledled Ewrop a sicrhau llais Ewropeaidd i gerddorion traddodiadol o Gymru.

Maent wedi lansio gwefan newydd sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth am eu hamcanion a’u gweithgareddau yn ystod y misoedd nesaf

Ym mis Tachwedd 2019, cynhelir y cyfarfod rhwydwaith cyntaf ym Mrwsel a fydd yn siapio a chyfeirio gweithgareddau 2020. Bydd pwyntiau trafod y cyfarfod yn cynnwys: Beth yw ‘Cerddoriaeth Werin Ewropeaidd’ a sut mae cynnal traddodiad a defnyddio technoleg ddigidol i fapio a rhannu gweithgareddau i greu darlun o’r math o waith sydd eisoes yn digwydd yn Ewrop.

Volcano

Mae cwmni Volcano o Abertawe yn sefydliad sy’n cael ei lywio gan artistiaid sy’n archwilio syniadau a pherthnasoedd cymdeithasol trwy gyfrwng perfformiad a chyfranogiad.

Menter gyfnewid ar sail ymarfer creadigol rhwng Volcano, Prifysgol Abertawe a phedwar o gwmnïau celfyddydol o Sbaen a Gwlad Groeg yw’r prosiect yma. Maent i gyd yn byw a gweithio mewn rhannau o Ewrop sy’n cael eu hystyried yn ymylol - yn ddaearyddol, economaidd, gwleidyddol, diwylliannol ac ieithyddol - o’u cymharu â chanolbwynt y grym Ewropeaidd. Mae pob un ohonynt yn cynnal hybiau creadigol amrywiol, mannau cyfarfod diwylliannol annibynnol neu ddigwyddiadau creadigol gwib. Maent hefyd yn ymroi i ddulliau archwilio creadigol yn seiliedig ar ymarfer.  

Byddant yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau cyfnewid ar draws Cymru ac Ewrop gan archwilio’r berthynas rhwng celfyddydau perfformio a phynciau llosg allweddol a gwrth safbwyntiau: y canolog a’r ymylol; y gwledig a’r dinesig; yr iaith drechaf a’r iaith leiafrifol neu sathredig.

Cyngor Llyfrau Cymru a Mercator Rhyngwladol

Gyda mentrau Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau a Chyfnewidfa Lên Cymru mae Cyngor Llyfrau Cymru a Mercator Rhyngwladol yn datblygu cysylltiadau gyda sectorau cyhoeddi a llenyddiaeth yr Almaen, Ffrainc a’r Eidal i ganfod gweithiau i’w cyfieithu i’r Gymraeg.

Amcan y prosiect yw rhyngwladoli profiadau darllen plant a phobl ifanc yn y Gymraeg. Fel rhan o weithgareddau’r prosiect, cynhelir digwyddiad i gyhoeddwyr Cymru yn ogystal â chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru yn Llanelli ar 2 Hydref 2019. 

Hefyd, mae cyfres o gyfarfodydd wedi cael eu trefnu gyda chyhoeddwyr a chyfieithwyr sy’n arbenigo mewn llyfrau plant a llenyddiaeth i ddarllenwyr ifanc yn Ffair Lyfrau Frankfurt. Yn ogystal, bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal gyda rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys cyrff dyfarnu grantiau sy’n hybu cyfieithu llenyddiaeth yn ieithoedd cynhenid eu gwledydd i ieithoedd eraill.

Gŵyl Ffilm Ieuenctid Rhyngwladol Cymru – Cidwm Cymru/Wicked Wales

Ym mis Mai 2019, bu Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm Ieuenctid Rhyngwladol Cymru – Cidwm Cymru/Wicked Wales, pobl ifanc sy’n rhan o’r ŵyl, a chynrychiolwyr o Ffilm Cymru Wales a Chanolfan Ffilm Cymru yng nghynhadledd y Rhwydwaith Sinema Ieuenctid yng Nghroatia yn archwilio cyfleoedd i wneuthurwyr ffilm ifanc a chwmnïau ffilm o Gymru.

Yn ystod eu hymweliad, estynwyd gwahoddiad i gynrychiolwyr o’r Rhwydwaith Sinema Ieuenctid i ddod i Gymru ym mis Hydref 2019 i fynychu Gŵyl Cidwm Cymru / Wicked Wales er mwyn cyfarfod â phobl ifanc, rhannu ymarfer creadigol gorau a meithrin rhwydweithiau ffilm ieuenctid rhyngwladol newydd yng Nghymru.

Rhannu’r dudalen hon