Man standing next to a sign that says deaf not stupid
Mr & Mrs Clark, Louder is Not Always Clearer ©

Jorge Lizalde 

Mae cwmnïau theatr a dawns o Gymru yn barod am ymweliad ardderchog arall â gŵyl gelfyddydau fwyaf y byd, sef Gŵyl yr Ymylon yng Nghaeredin.

Cynhelir Gŵyl yr Ymylon yng Nghaeredin rhwng 4 – 28 o Awst ac mae’n gyfle aruthrol i gwmnïau celfyddydau perfformio o Gymru i gyflwyno eu gwaith i gynulleidfaoedd newydd ac ennill cydnabyddiaeth ryngwladol am eu gwaith.

Yr ŵyl hon yw’r cyfle uniongyrchol mwyaf i sefydliadau celfyddydol ac unigolion creadigol o fyd y theatr a dawns yng Nghymru i gyflwyno eu gwaith i raglenwyr, cynhyrchwyr a hyrwyddwyr rhyngwladol a chenedlaethol.

Mae Menter Arddangos Caeredin y British Council, sy’n digwydd bob dwy flynedd, yn cael ei chynnal am y deuddegfed tro eleni gan roi llwyfan cenedlaethol i theatr a dawns sy’n cael ei gynhyrchu yn y Deyrnas Unedig. Mae tîm Theatr a Dawns y British Council yn dod â churaduron canolfannau theatr a dawns, prynwyr a chynhyrchwyr o bob rhan o’r byd i’r Fenter Arddangos yng Nghaeredin i brofi’r perfformiadau a mynychu cyfres o ddigwyddiadau rhwydweithio, ffeiriau masnach a chyfarfodydd grŵp. Eleni, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, mae dau gwmni o Gymru’n rhan o raglen Menter Arddangos Caeredin y British Council sef National Theatre Wales, sy’n cyflwyno ‘Cotton Fingers’, a Jonny Cotsen, sy’n cyflwyno ‘Louder Is Not Always Clearer’.

Gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru, mae rhaglen Dyma Gymru / This is Wales 2019 yn cyflwyno gwaith gan un ar ddeg o gwmnïau yn ystod yr ŵyl. Mae’r cwmnïau yma’n cynrychioli’r gorau o fyd y theatr, ysgrifennu newydd, gwaith safle-benodol, syrcas a dawns gyfoes yng Nghymru ac yn adlewyrchu rhychwant ac amrywiaeth y celfyddydau perfformio yng Nghymru.

Mae’r British Council yng Nghymru yn gweithio ar y cyd gyda thîm Theatr a Dawns y British Council a Chyngor Celfyddydau Cymru i sicrhau bod yr holl gwmnïau o Gymru sy’n teithio i Gaeredin yn manteisio’n llawn ar y cyfleoedd sy’n codi ar draws y ddwy raglen. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo perfformiadau i gynrychiolwyr rhyngwladol, estyn gwahoddiadau i ddigwyddiadau rhwydweithio a helpu wrth gyfryngu cyfarfodydd allweddol gyda phrynwyr rhyngwladol.

Cymrwch gip ar y sioeau o Gymru:

Dolenni allanol

Rhannu’r dudalen hon