Mae Artes Mundi yn cynnal ei seithfed arddangosfa ryngwladol o bwys a gwobr gelf gyfoes fwyaf y Deyrnas Unedig. Mae'r wobr o £40,000 yn agored i artistiaid y mae eu gwaith yn ystyried materion cymdeithasol sy'n ymwneud â thema 'Y Cyflwr Dynol'.
Cafwyd dros 700 o enwebiadau ar gyfer Artes Mundi 7. Mae'r chwe artist a roddwyd ar y rhestr fer yn arddangos yng Nghymru, a hynny yn yr Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac yn Oriel Chapter, Caerdydd rhwng 21 Hydref a 26 Chwefror 2017.
Mae uchafbwyntiau'r gwaith eleni yn cynnwys première byd o ddarn Nástio Mosquito, Transitory Suppository: Act #I Another Leader, yn ogystal â phremière o ddarn Bedwyr Williams, Tyrrau Mawr (2016).
Mae John Akomfrah OBE yn cyflwyno ei ffilm ddiptych Auto da Fé (2016) sy'n archwilio achosion mudo tra bod darn Lamia Joreige, Under-Writing Beirut, yn astudio hanes cymhleth Libanus o wrthdaro. Mae Amy Franceschini o grŵp Futurefarmers yn astudio gwleidyddiaeth cynhyrchu bwyd a'r artist fideo Neïl Beloufa yn cyflwyno cyfres o ffilmiau sy'n cwestiynu gwleidyddiaeth a strwythurau grym.
Daeth panel rhyngwladol o feirniaid ynghyd i ddewis enillydd y brif wobr. Ken Skates AC, yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith a gyhoeddodd mai’r artist cyfoes, John Akomfrah oedd enillydd gwobr Artes Mundi 7, gwerth £40,000, mewn seremoni a gynhaliwyd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd ar 26 Ionawr 2017.
Rydym wedi cynhyrchu cyfres o gyfweliadau dethol gyda'r chwe artist a enwebwyd. Mae'r ffilmiau hyn yn rhoi cyfle i ni glywed o lygad y ffynnon am eu gwaith, eu harferion a'u safbwyntiau.
Gwyliwch y rhagflas isod, a gwyliwch y cyfweliadau llawn ar ein sianel fideo