Cerddorion yn perfformio ar y llwyfan
Gŵyl gerddoriaeth Sŵn, Caerdydd 2016  ©

Swn 

Mae British Council Cymru yn falch iawn o gael cefnogi tîm Caerdydd Creadigol gyda’u symposiwm nesaf fydd yn archwilio’r hyn sydd yn gwneud dinas greadigol.

Mae’r digwyddiad hwn wedi’i gynllunio i ddatblygu’r sgwrs mae Caerdydd yn ei chael gyda dinasoedd creadigol eraill ac i edrych ar anghenion y sector creadigol, mewn meysydd fel seilwaith digidol ac addysg.

Bydd y digwyddiad yn tynnu ar yr hyn a ddysgwyd o’r prosiect Caerdydd Creadigol ochr yn ochr â’r themâu a’r tueddiadau sy’n dod i’r amlwg yn sgil ymchwil ehangach a safbwyntiau meddylwyr blaenllaw yn yr economi greadigol. Mae ymwybyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd yr economi greadigol, nid yn unig o ran ei chyfraniad at ansawdd bywyd pobl, ond fel rhan benodol o’r economi yn ei rhinwedd ei hun. 

Mae tystiolaeth o ffynonellau amryw iol yn cadarnhau’r farn gyffredinol bod Caerdydd yn ddinas greadigol, gyda sector diwylliannol sylweddol sydd nid yn unig yn rhan o ffabrig bywyd y ddinas ac sydd hefyd yn gonglfaen ei heconomi.

Mae Caerdydd Creadigol, a sefydlwyd ym mis Hydref 2015, yn rhwydwaith newydd sy'n cysylltu pobl sy'n gweithio mewn unrhyw sefydliad, busnes neu swydd greadigol yn ardal Caerdydd. Mae Caerdydd Creadigol wedi dechrau’r gwaith o fapio’r economi creadigol yng Nghaerdydd, a nod y prosiect yw cadarnhau Caerdydd fel dinas greadigol, gyda sector diwylliannol sylweddol sydd yn rhan o ffabrig bywyd y ddinas ac sydd hefyd yn gonglfaen ei heconomi. ’Am Gaerdydd Creadigol | Beth yw'r Economi Creadigol? 

Caerdydd: Symposiwm Prifddinas Greadigol

8 Rhagfyr 2016, 9.30 - 16:00

Adeilad Hadyn Ellis, Prifysgol Caerdydd, Heol Maindy, Caerdydd. CF24 4HR.

Siaradwr Gwadd: Hasan Bakshi, Cyfarwyddwr Economi Creadigol mewn Polisi ac Ymchwil, Nesta 

Cadeirydd: Yr Athro Ian Hargreaves, Cadeirydd yr Economi Ddigidol, Prifysgol Caerdydd.

Siaradwr: Yr Athro Justin Lewis, Ysgol Newyddiaduraeth, Astudiaethau’r Cyfryngau a Diwylliant, Prifysgol Caerdydd. Rhaglen lawn o siaradwyr i ddilyn:  

Dim lle ar ôl ar gyfer y digwyddiad hwn.

Gallwch ddilyn y digwyddiad ar-lein ar 8 Rhagfyr. 

  • Mi fyddwn ni’n dangos yr uchafbwyntiau’n fyw ar Twitter @BBCWales 

    10.30 Prif Siaradwr: Hasan Bakhshi, Nesta

    12.20 Ymchwil: Mapio Economi Creadigol Caerdydd. Yr Athro Justin Lewis, Prifysgol Caerdydd

    13.45 Panel: Mapio Economi Creadigol Caerdydd
  • Defnyddiwch #creativecardiff i ymuno â’r sgwrs, i ofyn cwestiwn neu rannu profiad o’r diwrnod 

Dolenni allanol

Rhannu’r dudalen hon