Helen Sear sy'n cynrychioli Cymru yn y 56ain Biennale Fenis, rhwng 9 Mai a 22 Tachwedd 2015.
Mae ei harddangosfa wedi'i threfnu gan Ffotogallery, yr asiantaeth genedlaethol ar gyfer ffotograffiaeth a chyfryngau’n seiliedig ar lens yng Nghymru, ar y cyd â'r curadur Stuart Cameron.
Mae Helen Sear yn un o artistiaid cyfoes pwysicaf Cymru. Mae archwilio sut mae ffotograffiaeth a chelfyddyd gain yn gorgyffwrdd yn nodweddiadol o'i gwaith ac mae hi'n canolbwyntio ar sut mae byd dyn, byd anifeiliaid a byd natur yn cydfodoli. Dyma'r tro cyntaf y mae Cymru wedi cyflwyno arddangosfa unigol gan artist benywaidd.
Biennale Fenis yw arddangosfa celfyddydau gweledol enwocaf a mwya'r byd. Comisiynwyd a rheolir Cymru yn Fenis/Wales in Venice gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru gyda chymorth a chydweithrediad Llywodraeth Cymru a'r British Council.
“Sear yw un o arloeswyr mwyaf blaenllaw ffotograffiaeth. Mae ei chyfrwng yn ymwneud â hud a lledrith gymaint ag y mae'n ymwneud â realaeth. Nid yw byth yn bur, yn llonydd nac yn gwbl adnabyddadwy. Mae pob cyfres newydd yn cyflwyno set newydd o heriau sy'n dangos ei diddordeb brwd mewn crefft a'n harfer ni o edrych.”
David Campany
Beginner’s Guide to the Venice Biennale
Teithiodd enillydd Gwobr Artist Ifanc Rhyngwladol Cymru 2014, Amy Edwards, i'r Biennale yn Fenis fel rhan o'i gwobr a lluniodd ganllaw 'A Beginner's Guide to the Biennale' i ni.