Menyw gyda gwallt melyn yn darllen llyfr mewn siop lyfrau
©

British Council 

Mae Parthian, cyhoeddwr annibynnol i Geredigion, Cymru, wedi ennill grant sylweddol Creative Europe ar gyfer ei brosiect Cyfieithiadau 11

Dros gyfnod o dair blynedd, bydd y grant yn galluogi iddyn nhw gyfieithu un ar ddeg llyfr i’r Saesneg, a gydag ein cefnogaeth, byddant yn hyrwyddo’r llyfrau yma i gynulleidfaoedd o Gymru a’r DU. 

Mae’r nofelwyr yn cynnwys Ursula Kovalyak Slofacia, Llŷr Gwyn Lewis o Gymru, Kristian Bang Foss o Ddenmarc, Mai Do Hamisultane o Moroco ac ysgrifennu mewn Ffrangeg, ac Auguste Corteau o Roeg.   

Dywedodd Cortina Butler, Cyfarwyddwr Llenyddiaeth y British Council, “Mae’r gefnogaeth ar gyfer y gwaith cyfieithu gan y rhaglen Creative Europe yn chwarae rhan amhrisiadwy o ran cysylltu pobl Ewrop drwy gyfnewidfeydd llenyddol. Rwyf wrth fy modd fod y cyhoeddwr Cymreig Parthian Books wedi derbyn y cyllid yma ar gyfer eu rhaglen – esiampl wych o’r ffordd y mae cyhoeddwyr annibynnol yn arwain y ffordd o ran adnabod a hyrwyddo llenyddiaeth sydd wedi’i chyfieithu yn y DU.”

Mae Richard Davies, un o bartneriaid gwreiddiol a Golygydd Parthian, yn croesawu’r cydweithrediad fel rhan o’r ymrwymiad parhaus gan gyhoeddwyr yng Nghymru i ymgysylltu ar lefel Ewropeaidd ehangach. “Mae’n gyfle gwych i fynd allan i fyd ehangach a darllen gwaith heb gynrychiolaeth ddigonol sydd yn deillio o’r diwylliannau hynod ddiddorol yma. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithrediad llwyddiannus gyda Creative Europe a phartneriaid eraill”

Rhannu’r dudalen hon