Grŵp o gerddorion yn chwarae drymiau a phibgodau ar y stryd
Grŵp o gerddorion ar eu ffordd o ddathliad priodas yng ngwersyll Rashadieh yn stopio i sgwrsio gyda’r tîm a chwarae cerddoriaeth draddodiadol

Prosiect Treftadaeth Libanus Opera Dinas Abertawe yw’r sefydliad cyntaf o Gymru i dderbyn arian gan y Gronfa Diogelu Diwylliant.

Mae’r Gronfa Diogelu Diwylliant yn cefnogi prosiectau i ddiogelu treftadaeth ddiwylliannol sydd dan fygythiad yn y Dwyrain Canol ac yng Ngogledd Affrica.

Mae’r gronfa’n cefnogi sefydliadu i gyflawni prosiectau i ddiogelu treftadaeth sydd dan fygythiad yn rhanbarthau’r Dwyrain Canol yn gyffredinol a Gogledd Africa. Mae’r sefydliadau yma’n helpu pobl leol i nodi a gwerthfawrogi treftadaeth ddiwylliannol; a datblygu sgiliau arbenigwyr lleol fel y gallant ddiogelu eu hasedau diwylliannol eu hunain ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol; a dogfennu, gwarchod ac adfer treftadaeth sydd dan fygythiad.

Dyfarnwyd £96,700 i Opera Dinas Abertawe ar gyfer prosiect a fydd yn creu cofnod parhaol o dreftadaeth ddiwylliannol hynod grwpiau o ffoaduriaid o Balestina a Syria mewn pump o wersylloedd yn Libanus. Nod y prosiect yw dod â phobl at ei gilydd trwy ail-greu gwyliau, cyfnewid ryseitiau a dawnsfeydd a rhannu’r straeon sy’n gyffredin rhyngddynt.

Caiff y prosiect ei gyflwyno mewn partneriaeth gyda dwy elusen sy’n cefnogi ffoaduriaid yn Libanus, sef Dreams of Refugee Association a Social Humanitarian Economical Intervention for Local Development, yn ogystal â Phrifysgol Americanaidd Beirut.                                      

Bydd y tîm yn cydweithio gyda grwpiau ffoaduriaid i ymchwilio i’w treftadaeth ddiwylliannol a chyfnewid straeon a fydd yn cael eu dogfennu a’u cyhoeddi ar wefan Prifysgol Americanaidd Beirut. Bydd hyn yn helpu i ddiogelu hunaniaeth ddiwylliannol cymunedau alltud.

“Daw’r prosiect yma ar adeg bwysig iawn; yn enwedig o ran pobl a fu’n ceisio lloches yn ystod blynyddoedd diwethaf, gan y bydd y prosiect yn anelu i ddogfenu treftadaeth a allai fod wedi diflannu neu nad yw’n cael ei ystyried yn bwysig gan genedlaethau iau”. Tarek Othman, Ymddiriedolwr, ‘Dreams of a Refugee’.

Mae ysgogi unigolion a sefydliadau lleol i ddatblygu gallu ar gyfer newid cymdeithasol cadarnhaol yn elfen allweddol o waith y prosiect, gyda gobaith y bydd hynny’n arwain at dwf economaidd a hybu lles cymdeithasol.

 

Dolenni allanol

Rhannu’r dudalen hon