Girl with film clapperboard
©

Shutterstock

Gŵyl Ffilmiau Ieuenctid Ryngwladol 20 – 24 Medi 2016

Cynhelir gŵyl ffilmiau ieuenctid ryngwladol newydd Cymru Cidwm Cymru:16/WickedWales:16 rhwng 20 a 23 Medi ym Mhrestatyn, y Rhyl, Bae Colwyn a Chastell Bodelwyddan. 

British Council Cymru yw un o noddwyr yr Ŵyl a bydd yn dyfarnu'r Wobr Rwydwaith Sinema Ieuenctid Rhyngwladol gyntaf yng nghynhadledd y Rhwydwaith, a gynhelir ar yr un pryd â'r ŵyl.

Bydd yr Ŵyl yn dangos ffilmiau byr a wnaed gan bobl ifanc o 19 o wledydd, gan gynnwys Rwsia a Brasil ac yn croesawu gwesteion o 14 o wledydd. 

Dangosir dwy ffilm nodwedd hefyd gan gynnwys Moondogs, drama anarchol, dod i oed wedi'i chyfarwyddo gan Philip John o Gasnewydd, De Cymru. 

Ar ôl y ffilm ddydd Gwener 23 Medi, bydd y gynulleidfa yn cael cyfle i drafod y ffilm gyda'r cynhyrchydd Kathy Spiers a'r actorion Tara Lee a Christy O Donnell. Caiff y ffilm ei dangos yn sinema achlysurol newydd Little Theatre y Rhyl, Sinema Wicked, yn dechrau am 6.45pm.

Mae'r ail ffilm, y ffilm ddogfen 'Ambulance' yn adroddiad person cyntaf pwerus o'r rhyfel yn Gaza yn 2014 gan y cyfarwyddwr ifanc Mohammed Jabaly o Gaza, Palesteina. Dangosir y ffilm arbennig hon yn Theatr Colwyn ddydd Mercher 21 Medi am 7pm. Caiff y ffilm ei dilyn gan sesiwn holi ac ateb wedi'i chyflwyno gan David Gillam o Ŵyl WOW gyda Hermann Greuel o Norwy, sef un o gynhyrchwyr y ffilm.

 

 

Tocynnau

Cysylltwch â Chanolfan Wybodaeth Twristiaeth y Rhyl ar 01745 355068 i archebu tocyn ar gyfer Moondogs am £3.95, a Theatr Colwyn ar 01492 577888 i archebu tocyn ar gyfer Ambulance am £5.

Rhannu’r dudalen hon