Bydd James Richards yn arddangos Music for the gift sef corff newydd o waith sy'n cynnwys gosodiad sain, a gweithiau fideo a delweddau llonydd, i gynrychioli Cymru yn Fenis Wales in Venice fel digwyddiad cyfochrog â'r 57fed Arddangosfa Gelf Ryngwladol – La Biennale di Venezia; arddangosfa celfyddydau gweledol fwyaf mawreddog y byd.
Mae'r arddangosfa, a gynhelir yn y Santa Maria Ausiliatrice – a fu unwaith yn lleiandy ac sydd bellach yn ganolfan gymunedol - wedi cael ei chomisiynu gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac wedi'i churadu gan Ganolfan y Chapter yng Nghaerdydd.
La Biennale di Venezia yw arddangosfa celfyddydau gweledol fwyaf mawreddog y byd. Caiff Cymru yn Fenis/Wales in Venice ei chomisiynu a’i rheoli gan Gyngor Celfyddydau Cymru gyda chefnogaeth a chydweithio gan Lywodraeth Cymru a’r British Council.
Mae James Richards yn ymddiddori ym mhosibilrwydd y preifat ymhlith anhrefn cyfryngau bob dydd. Mae’n gwneud defnydd o gronfa gynyddol o ddeunydd sy’n cynnwys sinema, gwaith gan artistiaid eraill, ffilm camcorder, teledu oriau mân y bore ac ymchwil yn yr archifau. Mae dulliau cynhyrchu ac arddangos delweddau yn ganolog i’w fethodoleg ac mae’n dadansoddi’r ddelwedd fel goddrych ac fel gwrthrych, gan ddatgelu’r ffyrdd y mae darnau o’r presennol yn gallu cysylltu â darnau o’r gorffennol, y cudd â’r anweledig, yr ymdeimladol â’r corfforol.
Mae cyflwyniad Richards yn cynnwys Migratory Motor Complex (2017), gwaith chwe-sianel electro-acwstig, sy’n mynd i’r afael â gallu sain i lenwi gofod artiffisial gan greu digwyddiadau sonig a melodaidd yno. Wedi’u plethu drwy’r darn mae motiffau lleisiol a cherddorol sy’n ailadrodd, ac mae’r rhain wedi’u datblygu mewn cydweithrediad â Kirsten Evans a Samuel Williams, myfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae’r gwaith wedi’i diwnio yn y gofod ei hun, gyda Richards yn adweithio i bosibiliadau acwstig y safle wrth iddo greu profiad sinematig ac aml-synhwyraidd – trefniant o gyfeiriadau emosiynol byw sydd i’w profi mewn modd goddrychol.
Mae What weakens the flesh is the flesh itself (2017) yn fideo a wnaed ar y cyd â Steve Reinke. Man cychwyn y gwaith yw cyfres o ddelweddau a ganfuwyd yn archif preifat Albrecht Becker — dylunydd cynhyrchiad, ffotograffydd ac actor a garcharwyd gan y Natsïaid am ei fod yn hoyw. Ymhlith y lluniau o ffrindiau a ffotograffau a dynnwyd pan oedd yn filwr yn yr Ail Ryfel Byd, mae casgliad o hunan-bortreadau wedi’u gosod, sy’n datgelu ymrwymiad obsesiynol i addasu’r corff, tatŵio a’i ddelwedd ef ei hun: wedi’i ddyblygu, a’i ailadrodd a’i ail-weithio drwy gyfrwng collage a gwaith yn yr ystafell dywyll.
Y casgliad hynod hwn o ddelweddau yw asgwrn cefn y fideo, sy’n fyfyrdod estynedig ar yr archif, ffotograffiaeth a’r corff. Mae’r hunan-bortread dwbl yn cael ei ddyblu drosodd a throsodd – mise en abyme; mae’r hunan yn mynd ar goll wrth i’r cnawd ddyblygu, gan ddianc rhag marwolaeth sy’n dychwelyd fel delwedd ysgafn sy’n adleisio chwant a phosibilrwydd.
Mae Rushes minotaur (2017) yn ddarn o gelf sy’n seiliedig ar argraffwyr inc ac yn ymdrin â dwy ddelwedd hynod: llun agos o groen yn breuo o lyfr meddygol, a blaen siop wedi’i orchuddio â tharpolin. Drwy dorri’r rhain ynghyd a’u hail-sganio, mae’r cyfeiriadau gweledol syml hyn a chyfuniadau o’r delweddau y mae wedi’u darganfod, yn cael eu llurgunio a’i hail-greu drwy broses sganio sy’n ehangu ac yn gosod y lluniau mewn cyfuniadau gwahanol.
Mae cyhoeddiad, sy’n bresennol drwy’r holl arddangosfa, yn cynnwys testun gan yr awdur Chris McCormack. Mae’r naratif yn symud rhwng y personol a’r gwyddonol, ac yn myfyrio ar lais dyn yn torri. Drwy symud rhwng y person cyntaf a’r trydydd person, mae’r testun yn cyfuno ag arddangosfa James Richards ar ogwydd, yn yr un modd ag y mae ei ddelweddau yn pendilio rhwng dogfennaeth ddilyffethair a thiriogaeth fewnol, mwy niwrotig.