Bu’r cloriannydd annibynnol, Dr Jessica Mordsley, yn sgwrsio â’r cyfarwyddwr, Geinor Styles, am ei phrofiad o weithio ar brosiect theatr amlieithog yn Indonesia.
Ym mis Tachwedd 2019, fe dreuliodd aelodau o’r cwmni theatr gwobrwyedig o Gastell Nedd, Theatr na nÓg, dair wythnos yn Makassar, Indonesia, yn rhannu a dyfeisio fersiwn newydd o’u drama nodedig i bobl ifanc. Mae’r ddrama, sydd wedi’i gosod yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn olrhain bywyd a gwaith y naturiaethwr o Gymru, Alfred Russel Wallace.
Brodor o Frynbuga yn Ne Cymru oedd Wallace, ond fe ddatblygodd ei syniadau am fioamrywiaeth yn nwyrain Indonesia. Yno hefyd yr ysgrifennodd ei gyfrol bwysicaf, ‘The Malay Archipelago’. Mae’r rhanbarth o ddwyrain Indonesia lle bu’n byw a gweithio am wyth mlynedd bellach yn dwyn ei enw - Wallacea.
Yn 2017 fe lansiodd y British Council ‘Wythnos Wallacea’ - gŵyl flynyddol sy’n cael ei chynnal ym Makassar. Mae ‘Wythnos Wallacea’ yn dathlu ysbrydoliaeth, addysg a’r celfyddydau a’r etifeddiaeth arbennig y mae Cymru ac Indonesia yn ei rhannu, yn ogystal â dathlu gwyddoniaeth a holl amrywiaeth Rhanbarth Wallacea.
Yn 2019, i nodi 150 mlynedd ers cyhoeddi llyfr Wallace, derbyniodd Theatr na nÓg wahoddiad gan y British Council i gymryd rhan yn yr ŵyl a pherfformio’r ddrama, ‘You Should Ask Wallace’ (a gafodd ei datblygu’n wreiddiol gan y cwmni yn 2008). Roedd y ddrama eisoes wedi cael ei pherfformio ledled Cymru ac yn y Deyrnas Unedig, yn ogystal â chyfieithiad Portiwgaleg ohoni ym Mrasil. Ond dyma’r tro cyntaf i’r ddrama gael ei llwyfannu yn yr union fan y ffurfiodd Wallace ei syniadau – ac sy’n dal yn un o’r mannau mwyaf amrywiol ei bioleg ar wyneb y ddaear.
Ar gyfer y prosiect yma, fe ymunodd y dramodydd a’r cyfarwyddwr Cymru Geinor Styles, a’r actor Ioan Hefin, gyda’r artist o Indonesia, Abdi Karya, i greu fersiwn newydd o’r ddrama i’w pherfformio yn Saesneg a Bahasa. Wrth weithio gyda’r actorion o Indonesia, Yosua Raharjo Polli, Vicram Iskandar Putra a Hildawaty, cafodd cymeriadau newydd, wedi’u seilio ar gynorthwywyr Wallace yn Indonesia, Ali a Baderoon, eu hychwanegu i’r ddrama. Yn ogystal, cynhaliwyd gweithdai i bobl ifanc fel rhan o’r prosiect.
Yn dilyn yr ymateb brwd i’r ddrama, mae Theatr na nÓg a’u partneriaid yn Indonesia yn awyddus i drwyddedu’r fersiwn newydd yma o’r ddrama i deithio yn Indonesia.
Yma, mae Geinor yn sôn am ei phrofiadau yn Indonesia a’r hyn a ddysgodd am greu gwaith theatr amlieithog:
Pan ddechreuon ni ar y ddrama yma nôl yn 2008, roeddwn i’n rhyfeddu bod rhywun yn y 19eg wedi penderfynnu camu allan a theithio i bendraw’r byd i ffeindio atebion i’w gwestiynau. Roedd y peth yn hollol anhygoel a chyffrous i fi - yn enwedig gan nad oedd neb yn gwybod amdano.
O’r dechrau, roedd gen i’r syniad yma’n fy mhen am ddilyn ôl ei draed, yn llythrenol, a cheisio perfformio’r ddrama yn yr union lefydd y bu’n byw a gweithio ynddynt. Fe wnaethom ni hynny drwy Gymru gyfan, ac ar draws gweddill y Deyrnas Unedig. Yna, drwy gysylltiadau gyda Dr George Beccaloni, curadur casgliad Wallace yn yr Amgueddfa Hanes Natur yn Llundain, daeth cyfle i ni fynd â’r ddrama i Rio de Janeiro, lle bu Wallace hefyd yn gweithio am gyfnod.
Roeddem ni wedi bod yn awyddus iawn i deithio i archipelago Malay [ardal o dros 25,000 o ynysoedd sydd erbyn heddiw’n cynnwys Brunei, Singapore, Dwyrain Malaysia, Indonesia, Ynysoedd y Philipinau a Dwyrain Timor] lle ysgrifenodd Wallace ei theori. Dyma oedd y greal sanctaidd i ni. Roeddem ni wedi bod i Singapore, ond yr hyn oedd yn bwysig i fi, yn bwysicach na theithio’r ddrama i wahanol lefydd, oedd pwysleisio cysylltiad Wallace â’r llefydd hynny.
Pan drefnodd y British Council i ddirprwyaeth o Indonesia a Malaysia deithio i Brydain, roeddwn i’n awyddus iawn i gwrdd â nhw achos roeddwn i eisiau gwneud y cysylltiad yna. Pan gwrddais â Paul Smith, Cyfarwyddwr Indonesia’r British Council, fe ffeindiais ei fod yntau’n teimlo’n angerddol am Wallace.
Mae’n hawdd cynhyrfu gormod wrth weithio gyda’r British Council a meddwl am holl bosibiliadau’r holl lefydd y gallech deithio iddynt. Ond roedd angen i hyn fod yn broses ystyrlon i ni; fel y gallem ffurfio cyswllt a pherthynas go iawn gyda’r lle y byddem yn gweithio a pherfformio ynddo.
Roedd gweithio mewn ysgolion, a chysylltu addysg a chelf, yn rhan fawr o hyn. Rydyn ni’n gwneud hynny’n berffaith yng Nghymru; gan ei fod yn rhan gwbl sylfaenol o’n gwaith, rydyn ni’n ffeindio ei fod yn ffitio’n hawdd. Y ddrama yw canolbwynt y cyfan, ond rydyn ni hefyd yn ceisio ateb yr her o ffeindio ffordd i’r ddrama gysylltu drwy ddysgu. Roedd hwn yn gyfle perffaith i ni.
Iaith a diwylliant
Doeddwn i ddim yn adnabod Abdi (Karya, yr artist o Indonesia) o gwbl cyn dechrau’r prosiect yma. Cafodd y cysylltiad ei greu drwy’r British Council. Gan eu bod nhw’n gyfarwydd â gwaith artistiaid theatr yn Indonesia, fe wnaethon nhw awgrymu cydweithio gydag Abdi. Fyddwn i ddim wedi gwybod ble i ddechrau. Cafodd y berthynas ei chyfryngu drwy’r British Council, ac fe fyddaf yn fythol ddiolchgar iddyn nhw am hynny.
Mae gweithio gyda’r British Council yn golygu mwy na theithio i wlad newydd a pherfformio eich sioe yno. Dyna sydd mor dda am y broses. Mae’n rhaid gwreiddio’r holl broses yn niwylliant y wlad. Mae hynny’n beth gwirioneddol gyffrous i fi achos dyna’n union wnaeth Wallace. Roedd e’n gwneud mwy na tharo draw i’r gwledydd yma; byddai’n integreiddio’i hun i ddiwylliant ac iaith pob gwlad. Mae ysbryd Wallace i’w weld yn amlwg yng ngwaith y British Council. Yn fy marn i, petai angen wyneb cyhoeddus ar y British Council, byddai Alfred Rusel Wallace yn ddelfrydol. Fe ddysgodd ieithoedd y gwledydd y teithiodd iddynt, ac fe ddysgodd am eu diwylliannau. Dyna oedd ei fwriad a dyna yr oedd am ei gyflawni.
Datblygu drama drwy weithio’n ddwyieithog
Yn ffodus, mae Saesneg Abdi yn anhygoel, ac fe wnaeth hynny helpu’n fawr. Ond cafodd yr holl ymarferion eu cynnal yn ddwyieithog. Bu hynny’n broses ddysgu anferth i fi. Rydyn ni’n falch iawn ein bod ni’n siarad Cymraeg a bod dwy iaith gyda ni, ond roedd bod yn Makassar, lle mae pedair iaith yn cael eu defnyddio ac mae pawb yn gallu siarad neu gyfathrebu yn yr ieithoedd hynny, yn agoriad llygad go iawn. Mae tua 700 o ieithoedd yn Indonesia, felly nid yw amlieithrwydd yn rhwystr iddyn nhw, ond yn fantais
Maen nhw’n deall bod angen iddynt gyfathrebu â’i gilydd a chyd-dynnu, ac felly maen nhw’n addasu. Gwnaeth hynny i mi sylweddoli: pam fod iaith yn cael ei weld fel cymaint o faen tramgwydd pan nad yw hynny’n wir o gwbl?
Er nad oeddwn i’n siarad Bahasa, nid oedd hynny’n rhwystr.
Pan gyrhaeddon ni gyntaf, roedd llawer iawn o Saesneg yn y ddrama, ac fe fues i ag Abdi’n trafod yr angen i integreiddio mwy o’r iaith Indoneseg i’r testun.
Fe dreulion ni lawer o’r cyfnod ymarfer yn ffeindio ffyrdd o gyflawni hyn: cyflwyno cymeriadau newydd, a gweithio allan sut i wneud hynny. Fe ysgrifenais i ddarnau newydd yn Saesneg; byddai Abdi’n eu cyfieithu i’r Indoneseg, ac fe fyddai’r ddau actor yn eu dysgu. Roedd yn rhaid i mi gadw mewn cof faint y gallent ei ddysgu mewn amser byr.
Roedd gan y gynulleidfa gymaint o barch at ddiwylliannau eraill; roedden nhw’n gwrando ar bobl yn perfformio’n Saesneg, ac er nad oedden nhw’n deall yr iaith doedden nhw ddim yn gwrthod y profiad. Roedd rhannau o’r ddrama mewn Bahasa hefyd, ac roedd hynny’n help iddyn nhw ddilyn y stori.
Roedd yn ffordd ddiddorol o weithio. Dw i ddim wedi gweithio fel yna o’r blaen. Mae wedi rhoi cymaint mwy o hyder i fi, nawr ‘mod i nôl adre, i lwyfannu sioeau mewn sawl iaith. Rydyn ni ar fin cyflwyno sioe mewn Eidaleg, Cymraeg a Saesneg, ac rwy’n llawer mwy hyderus wrth gofleidio’r profiad. Does dim rhaid cyfieithu pob un gair. Fe ddylai pobl gofio fod pobl yn siarad gwahanol ieithoedd, a pharchu hynny.
Ni fydd iaith a diwylliant fyth yn datblygu os na ddechreuwn ni gofleidio’r ddau ddiwylliant fel ei gilydd. Wedi treulio amser yn Indonesia a phrofi sut maen nhw’n gweithio, mae gen i’r hyder i wneud hynny nawr.
Gweithdai i bobl ifanc
Ces fy syfrdanu’n llwyr gan haelioni pobl Indonesia a chymaint o feddwl oedd ganddynt o ddiwylliant. Fe wnaethom ni gynnal sesiwn gyda grŵp o fyfyrwyr drama. Roeddwn i’n siarad yn Saesneg am sut y gwnaethom ni greu’r ddrama, byddai Ioan yn perfformio darnau mewn Bahasa, byddai Abdi’n cyfieithu, ac yna byddai’r myfyrwyr yn holi cwestiynau yn Saesneg neu Bahasa. Maen nhw mor awyddus i ddatblygu eu sgiliau iaith Saesneg. Yn syml iawn, doedd y defnydd o iaith ddim yn broblem i neb. Rwy’n credu fod hynny’n gweithio am eu bod wedi hen arfer â diwylliannau eraill yn ei gwlad. Dydyn ni ddim wedi arfer â hynny yn yr un ffordd. Dydyn ni ddim yn ddigon hyderus i nofio gyda’r llif.
Wrth edrych ymlaen, ac wrth edrych ar gyflwr ein gwlad ni nawr, rwy’n credu y bydd y dramau y byddaf yn eu creu yn y dyfodol i gynulleidfaoedd ifanc yn eu trochi yn yr agwedd yma – fel bo’n rhaid iddyn nhw gofleidio diwylliannau eraill. Peidio â dweud, “Dw i ddim yn ei ddeall”; allwn ni ddim byw gyda’r agwedd yna bellach. Rwy’n awyddus iawn i archwilio mwy o hynny gyda phlant yn y wlad yma.
Fe aethom ni allan i Indonesia gan gredu ein bod ni’n gwybod llawer am theatr broffesiynol, ond fe ddysgais i gymaint am ddynoliaeth. Roedd yn brofiad a wnaeth argraff fawr arnaf.
Theatr i blant yn Indonesia
Does dim theatr i blant fel y cyfryw yn Indonesia. Mae mwy o theatr broffesiynol yn Jakarta, ond yn Makassar, sydd ddwy awr i ffwrdd mewn awyren, does dim theatr o gwbl. Mae Makassar yn lle gwahanol iawn - amgylchedd trefol a phorthladd, mewn gwirionedd. Dyw e ddim yn gyrchfan i dwristiaid. Mae pobl yn hedfan i Makassar er mwyn hedfan allan i Bali ayb. Roedd pobl yn methu’n lan â deall pam roedden ni’n treulio tair wythnos yno. Roeddwn i’n hoffi’r syniad ein bod ni’n dod â rhywbeth newydd iddyn nhw.
Y sector creadigol
Does dim ffordd i ddatblygu gyrfa’n benodol fel actor yn Indonesia, mae angen sgiliau a swyddi eraill arnoch. Mae Abdi yn gwneud tecstilau ac yn gwneud gwahanol fathau o waith. Mae ganddo stôr o sgiliau gwahanol.
Mae angen bod yn rhan o ddiwydiant creadigol yn hytrach na dilyn un llwybr tua un yrfa benodol.
O fy safbwynt i, gan ‘mod i’n cael fy ariannu drwy arian cyhoeddus mae gen i gyfrifoldeb i’r trethdalwr. Os ydw i’n cael fy nghyflogi i greu darn o waith, yna, rwy’n creu’r darn yna o waith. Rwy’n ymwybodol iawn o sut rydyn ni’n defnyddio’r adnoddau cyhoeddus hyn, a’r cyfrifoldeb a ddaw gyda hynny. Mae’n wahanol iawn yn Indonesia. Felly roedd yn rhaid cynnal yr ymarferion mewn ffordd a fyddai’n sicrhau ein bod ni’n cyflwyno’r gwaith ar amser.
Cefnogaeth y British Council
Roedden ni’n lwcus fod ‘Wythnos Wallacea’ yn digwydd yn Makassar. Does dim swyddfa gan y British Council yno, ond fe ddaeth yr holl staff draw o Jakarta. Fe fuon ni’n gweithio gyda Annisa (Fauzia) a Camelia (Harahap) o’r tîm celfyddydau, ac roedden nhw’n rhyfeddol. Os oedd angen unrhyw beth, yr oll yr oedd angen ei wneud oedd danfon ebost ac fe fydden nhw’n ei sortio’n syth. Fe wnaethon nhw a rheolwr y cynhyrchiad edrych ar ein hôl hefyd pan dreulion ni wythnos yn ymchwilio a chynefino â’r wlad.
Ac roedd Abdi gyda ni hefyd – fel rhyw fath o minder; yn ein codi ni, mynd â ni am fwyd a gofalu amdanom ni ym mhob ffordd.
Wrth weithio gyda British Council Cymru, roeddwn i’n teimlo eu bod nhw wastad ‘wrth law’. Yr hyn oedd yn hyfryd am weithio gyda Natasha (Nicholls), y rheolwr celfyddydau, oedd y ffordd y gwnaeth hi fy nhywys mor ddeheuig heb gamu i mewn i’r broses. Roeddwn i’n teimlo mai fi oedd yn llywio pethau yn hytrach na mod i wedi cael fy nanfon allan i gyflawni cenhadaeth rhywun arall. Roedd y gefnogaeth a gefais yn hollol ddi-fai. Roedd yn wych o’r dechrau i’r diwedd.
Paratoi ar gyfer cydweithio ar brosiect
Paratowch drwy ddysgu rhai o elfennau sylfaenol yr iaith. Mae hynny’n wirioneddol bwysig. Rydych chi yng nghartref rhywun arall; mae pobl yn dwlu eich clywed yn eu cyfarch yn eu hiaith eu hunan. Gall pethau bach fel yna eich cario’n bell iawn.
Dyw heriau ieithyddol ddim yn amhosib i’w goresgyn. Ond rydych yn elwa’n sicr drwy wneud ymdrech i feistroli’r elfennau sylfaenol. Peidiwch byth â gweld iaith fel problem, yn enwedig i bobl sy’n unieithog; peidiwch â’i weld fel rhwystr, ond yn hytrach fel arf i gyfathrebu.
Yn y theatr, rwy’n credu ein bod ni weithiau’n dueddol o feddwl os nad yw’r gynulleidfa’n deall yr iaith, yna mae’n rhaid i’r dull perfformio droi’n theatr gorfforol, ac nad allwn weithio gyda thestun. Ond mae cynulleidfaoedd y gwledydd yma’n awyddus iawn i gael eu trochi mewn Saesneg. Maen nhw’n gweld yr iaith Saesneg fel cyfrwng i ddod ymlaen yn y byd. Maen nhw eisiau gwrando ar yr iaith. Ddylen ni ddim anwybyddu na diystyru hynny. Maen nhw eisiau siarad ein hiaith ni lawn cymaint ag yr ydym ni eisiau bod yn rhan o’u diwylliant nhw, ac mae’n werth cymryd ychydig o amser i ddeall hynny.
Ceisiwch gynnal sgyrsiau drwy Skype cyn i chi deithio. Fe ges ddwy sgwrs dda gydag Abdi cyn i fi adael Cymru, ac roedd yn gwbl amlwg ein bod ni’n mynd i gyd-dynnu. Mae Abdi’n berson mor gynnes, mor hael, ac mae’n siarad gyda’r fath angerdd am berfformio ac adrodd straeon – roedd hynny’n gwbl amlwg yn ystod ein sgyrsiau Skype. Mae’n brofiad gwahanol i sgwrs ffôn; dych chi’n gallu gweld pobl yn gwenu. Yr eiliadau allweddol yna; mae gwres pobl yn eich cyffwrdd chi. Mae’n rhaid i chi greu cyswllt ar lefel bersonol gyda’ch partneriaid.
Ac yn olaf: ewch â rhoddion gyda chi. Roedd pobl mor ddiolchgar, ac roedden nhw wrth eu boddau’n dysgu am ein diwylliant ni; felly mae unrhyw elfen o’ch diwylliant eich hunan y gallwch ei rannu yn beth gwych.