Fideo Mehefin 2014 - Fel rhan o'r rhaglen Starless and Bible Black, canwyd cerdd Dylan Thomas 'And Death Shall Have No Dominion'ar strydoedd Efrog Newydd gan 'gôr headphone cydamseru'. Cyfansoddwyd lleoliad y gerdd gan Pete M Wyer.
Mae canmlwyddiant Dylan Thomas, y bardd enwog o Gymru yn gyfle gwych i'r British Council ategu gwaith a buddsoddiad partneriaid cenedlaethol yng Nghymru.
Mae teitl y rhaglen hon, Starless and Bible Black, wedi'i ysbrydoli gan waith y bardd. Mae British Council Cymru yn arwain y gwaith o gydlynu a datblygu'r rhaglen hon ledled y byd.
Mae'r rhaglen yn gweithredu mewn ymdeimlad o gydymddibyniaeth, cyfnewid a phartneriaethau hirdymor. Drwy arddangos gwaith Cymreig o safon uchel dramor, byddwn yn creu cysylltiadau diwylliannol ac effaith.
Cynhelir y rhan fwyaf o'r rhaglen mewn pum gwlad; UDA, Canada, yr Ariannin, India ac Awstralia. Bydd y gweithgareddau yn cynnwys perfformiadau ar y cyd, dosbarthiadau meistr a gweithdai addysgol i athrawon ac ymarferwyr.