Fel rhan o UK/UAE 2017, sef blwyddyn o gydweithio creadigol, bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn perfformio yn nhymor agoriadol Dubai Opera, sef theatr celfyddydau perfformio aml-fformat bwrpasol gyntaf Dubai, sydd wedi'i lleoli yng nghanol y ddinas.
Mae UK/UAE 2017 yn flwyddyn o gydweithio creadigol rhwng gwledydd Prydain a'r Emiraethau Arabaidd Unedig a bydd yn cynnwys tymor o ddigwyddiadau celfyddydol, addysgol a diwylliannol er mwyn denu cynulleidfaoedd newydd, creu cyfleoedd cydweithio newydd a chryfhau'r berthynas rhwng y gwledydd.
Eleni, mae cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn dathlu pen-blwydd arbennig yn 70 oed, ac yn perfformio am y tro cyntaf yn Dubai. Byddan nhw'n perfformio dwy o operâu mwyaf poblogaidd Puccini; Madam Butterfly a La Bohème - cynyrchiadau maen nhw wedi ennill gwobrau amdanynt.
Bydd perfformiadau gwib yn digwydd yn y British Council yn Dubai ac ar Blasa Dubai Opera, lle bydd aelodau o'r corws yn canu ariâu o'r operâu poblogaidd yma.
Mae'r British Council yn falch o gael cefnogi rhaglen o ddigwyddiadau addysgol sy'n cynnwys gweithdai, dosbarthiadau meistr ac ymarferion agored.
Bydd pobl ifanc mewn ysgolion a cholegau yn Dubai yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai a dosbarthiadau meistr gyda chantorion ac offerynwyr cerddorfaol Opera Cenedlaethol Cymru. Byddant hefyd yn cael cip y tu ôl i'r llenni yn ystafelloedd ymarfer un o'r operâu eiconig yma. Ar 1 Mawrth 2017, bydd dathliad arbennig yn Llysgenhadaeth Prydain i nodi Dydd Gŵyl Dewi.