Lady Macbeth
Shakespeare Lives - Lady Macbeth ©

British Council

Yn 2016 rydym yn cofio 400 mlynedd ers marwolaeth Shakespeare gyda dathliad byd eang o’i waith.  

Ewch i wefan y British Council Shakespeare Lives i ddarganfod beth sydd yn digwydd o gwmpas y byd a sut rydych chi’n gallu ymuno

Shakespeare Lives ar y BBC

Mae’r British Council a’r BBC wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i ddod â Shakespeare Lives i gynulleidfa mor eang â phosib. Mae’r wefan Shakespeare Lives 2016 yn drysor cudd o bob math o bethau cysylltiedig â Shakespeare, gan gynnwys eitem pwysig am y cynhyrchiad o Henry VI gan fenywod o’r cwmni cwmni Cymreig Omidaze

Tymor ffilmiau Shakespeare Lives - Chapter

Yn ystod mis Ebrill rydym wedi bwrw golwd dros ddylanwad Shakespeare mewn ffilmiau a pherthnasedd ei waith yng Nghymru a thu hwnt, gyda dangosiadau ffilm, trafodaethau, gweithdai a nodiadau rhaglen wedi eu comisiynu’n bwrpasol. Cafodd y digwyddiadau eu cydlynu gan British Council a Chanolfan Celfyddydau Chapter.

Mae’r darlithydd David Cottis yn trafod y themâu a godwyd mewn tri phanel yn yr erthygl Shakespeare Lives! yn Wales Arts Review. (Saesneg)

 

Henry V wedi’i chyfarwyddo gan Kenneth Branagh

Dydd Sul y 3ydd o Ebrill, 5yh

Ar ôl trechu y brenin Cymreig Owain Glyndwr, mae'n rhaid i’r Brenin Hal adael ei ieuenctid gwrthryfelgar yn y gorfennol, ac ymdrechu i ennill parch ei gyfoedion a’i ddinasyddion. Wrth hawlio rhanbarth o Ffrainc, mae Henry yn casglu ei filwyr ac yn paratoi ar gyfer rhyfel, gyda’r gobaith y bydd yn uno ei wlad. 

Trafodaeth ar ôl y ffilm: ' Shakespeare a Chymru'

Curadir gan Siobhan Brennan. Fe fydd trafodaeth ynglŷn â defnydd Shakespeare o hunaniaeth genedlaethol, a sut mae hyn yn berthnasol i ni yng Nghymru heddiw. Mae’r cyfranwyr yn cynnwys Gwyneth Lewis, Bardd Cenedlaethol Cymru cyntaf; y bardd, golygydd a beirniad llenyddol Grahame Davies; Rakie Ayola, actores Shakespearaidd o Gaerdydd, a Siobhan Brennan, myfyrwraig ôl-raddedig sy'n arbenigo ar Shakespeare a Chymru.  

Macbeth gyda Michael Fassbender

Dydd Sul Ebrill y 10ed, 5yh

Mae Macbeth, dug o’r Alban a rhyfelwr dewr, yn derbyn proffwydoliaeth gan driawd o wrachod sydd yn darogan y bydd o’n dod yn frenin. Dyn uchelgeisiol sy’n cael ei sbarduno i weithredu gan ei wraig, mae Macbeth yn llofruddio ei frenin ac yn cymryd yr orsedd ar gyfer ei hun, ond ni all ddianc rhag ei dynged. Mae’r ffilm yn arddangos stori wefreiddiol ac angerddol o un o gymeriadau mwyaf cymhellol llenyddiaeth ar adeg dyngedfennol yn hanes Prydain.

Trafodaeth ar ôl y ffilm: ' Shakespeare a’r Undeb'

Curadir gan Siobhan Brennan. Sut mae drama Albanaidd Shakespeare yn ein helpu i drafod syniadau o hunaniaeth genedlaethol ym Mhrydain ôl- ddatganoledig? Mae’r cyfranwyr yn cynnwys Phil George , cynhyrchydd ‘Shakespeare : Dramodydd y Brenin' , a'r Athro Andrew Murphy o Brifysgol St Andrews, golygydd 'Shakespeare a'r Alban’.

West Side Story

Dydd Sul 17eg o Ebrill, 5yh

Cymdogaeth yn Manhattan, Efrog Newydd, yw lleoliad Tony a Maria, cariadon wedi eu dal ar ochrau cyferbyniol mewn rhyfel rhwng dwy gang yn yr addasiad bywiog hwn o ddrama Shakespeare ‘Romeo and Juliet’. Mae Maria yn chwaer i Bernardo, arweinydd y Sharks, a Tony yw ffrind gorau Riff, arweinydd y Jets. Mae’r ddwy gang yn elynion ffyrnig, ac ni alla Maria neu Tony wneud unrhywbeth i  osgoi’r trais sy’n arwain at ddiweddglo torcalonnus y ffilm. Sgôr anhygoel gan Leonard Bernstein a Stephen Sondheim gyda choreograffi dwys gan Jerome Robbins a enillodd i’r ffilm ddeg Oscar gan gynnwys y wobr Ffilm Orau.

Trafodaeth ar ôl y ffilm: 'Shakespeare a'r Sioe Gerdd'

Wedi’i chadeirio gan Rebecca Gould, fe fydd y drafodaeth hon am ein diddordeb parhaol yn Shakespeare a'i ddylanwad ar sioeau cerdd ar y llwyfan a ffilm. 

Ran, addasiad o King Lear a gyfarwyddwyd gan Akira Kurosawa

Dydd Sul y 24ain o Ebrill, 5yh

‘Ran’ yw epig olaf y cyfarwyddwr Siapaneaidd chwedlonol Akira Kurosawa ac mae’n addasiad gwych o ddrama Shakespeare ‘King Lear’. Mae'r ffilm yn dilyn hanes yr hen ryfelwr Hidetora sydd, mewn ymgais i sicrhau heddwch, yn rhannu ei deyrnas rhwng ei dri mab.

Yn cynnwys golygfeydd o frwydr syfrdanol a pherfformiadau bythgofiadwy, mae’r dangosiad arbennig hwn yn cael ei gydlynu gan y British Council fel rhan o'r tymor ‘Shakespeare Lives’ yn dathlu 400 mlynedd ers marwolaeth Shakespeare. 

Trafodaeth ar ôl y ffilm: 'Cyfieithiad Shakespeare'

Sut mae cyfieithu ac addasu dramâu Shakespeare yn ei gadw o’n fyw i ni heddiw? Mae’r cyfranwyr yn cynnwys Dr Paul Prescott, cynullydd o'r modiwl 'Global Shakespeare' ym Mhrifysgol Warwick, a Gwyneth Lewis, Bardd Cenedlaethol Cymru gyntaf, sydd wedi cyfieithu 'The Tempest' i'r Gymraeg. 

Hamlet gyda Maxine Peake

Dydd Sul y 1af o Fai, 3.30yh

Mae tad Hamlet wedi marw, a Denmarc wedi coroni brenin newydd. Yn llawn galar a thristwch, mae Hamlet yn ymdrechu i ddial llofruddiaeth ei thad, gyda chanlyniadau trychinebus. Y ddrama oruchaf am deyrngarwch, cariad, brad, llofruddiaeth a gwallgofrwydd. Mae pob Hamlet yn cael ei ddiffinio gan y prif actor. Yn y fersiwn minimalaidd, ffres a chyflym hwn, mae materion ynglŷn â rhywedd yn y ddrama yn cael eu hamlygu gan berfformiad cymhellol Maxine Peake yn y rôl eponymaidd.

Trafodaeth ar ôl y ffilm: 'Merched a Chroes-Castio yn Shakespeare'

Fe fydd y cyfranwyr yn cynnwys Yvonne Murphy, Cyfarwyddwr Creadigol cwmni Shakespeare oll-ferched Omidaze Productions, yr Athro Carol Rutter, yr arbenigwraig academaidd enwog ar Shakespeare, a'r actores Shakespearaidd Lisa Zahra. 

Dolenni allanol

Rhannu’r dudalen hon