Dyma flog a ysgrifennwyd gan grŵp o arbenigwyr iaith o Gymru, wrth iddynt fynd i Ontario, Canada am wythnos i ddysgu mwy am y cynllun Ffrangeg fel Ail Iaith.
Cynrychiolwyr o brif ysgolion ieithoedd tramor modern ERW(Ein Rhanbarth ar Waith) yw'r grŵp, sef cyfuniad o chwech awdurdod lleol yng nghanolbarth a gorllewin Cymru sy'n cydweithio i wella gwasanaethau ysgolion.
Mae'r criw yn cynnwys Anna Vivian Jones, Cydlynydd Rhanbarthol Ieithoedd Tramor Modern, Angharad Evans, Ysgol Gymunedol Cwmtawe, Castell-nedd Port Talbot, Kelly Gipson, Ysgol Pentrehafod, Abertawe, Jessie Newbold, Ysgol Penglais, Ceredigion, France Le Huquet, Ysgol Bro Dinefwr, Sir Gaerfyrddin, a Janette Davies, Ysgol Gyfun Gŵyr, Abertawe.
Diwrnod 1
Wrth gyrraedd Toronto y noson gynt roedd balchder trigolion y ddinas yn ei hamrywiaeth ddiwylliannol yn hollol amlwg. Roedd y gyrrwr tacsi a gludodd ni o'r maes awyr yn dod o India a dwedodd wrthon ni'n llawn balchder y byddem ni'n clywed cannoedd o wahanol ieithoedd ar y strydoedd yn ystod yr wythnos a bod Toronto yn gymdeithas wirioneddol integredig, sy'n croesawu pobl o bob cenedl a diwylliant.
Parhaodd yr argraff gyntaf anhygoel hon am yr wythnos gyfan, wrth inni ddysgu mwy am ddarlun ieithyddol cymhleth Ontario a'i oblygiadau ar y system addysg. Mae'r disgyblion yn gymysgedd o siaradwyr Saesneg a Ffrangeg fel mamiaith, siaradwyr ieithoedd brodorol fel Ojibwe a Mohawk, yn ogystal â siaradwyr ieithoedd eraill fel mamiaith, fel Somali, Portiwgaleg, Pwyleg a Chantoneg.
Er bod Ontario yn dalaith ddwyieithog swyddogol, nid yw un o bob pedwar o'i disgyblion yn siarad Saesneg na Ffrangeg gartref.
Felly, roedden ni'n edrych ymlaen at ddarganfod sut mae'r sialensiau hyn yn cael eu datrys mewn ysgolion yn ystod y dyddiau oedd i ddod.
Treulion ni'r diwrnod cyntaf yng Ngweinyddiaeth Addysg Ontario, ble rhoddodd rhai o'r bobl sy'n gyfrifol am gwricwlwm Ontario drosolwg o system addysg y dalaith inni.
Mae dros filiwn cilometr sgwâr o dir yn Ontario (ydy, mae'n fwy nag ERW!) ac mae'n cynnwys dros 40% o'r 33.6 miliwn sy'n byw yng Nghanada. Mae 72 o fyrddau ysgol, sy'n cyfateb i'r awdurdodau lleol yng Nghymru.
Dysgon ni fod pob talaith yng Nghanada yn gyfrifol am ddatblygu ac adolygu ei chwricwlwm ei hun a bod Ontario wedi gwella ei chanlyniadau'n sylweddol yn ystod y 13 mlynedd ddiwethaf, diolch i sefyllfa wleidyddol sefydlog a pholisïau a anogwyd ac a grëwyd gan addysgwyr a secondiwyd neu a gyflogwyd gan y weinyddiaeth.
Mae pob bwrdd ysgol yn rhannu'r un weledigaeth newydd ar gyfer Ontario, ac mae pedwar nod ganddi:
- Rhagoriaeth
- Sicrhau tegwch
- Gwella hyder cyhoeddus
- Hyrwyddo llesiant
Yn dilyn trosolwg cynhwysfawr o gwricwlwm Ontario, trodd ein sylw at ffocws ein hymweliad, sef dysgu am fframwaith Ffrangeg fel Ail Iaith mewn ysgolion o'r ysgol feithrin hyd at ddosbarth 12 (sy'n cyfateb i'n blwyddyn 13 ni).
Eu gweledigaeth nhw yw y dylai disgyblion mewn byrddau ysgol Saesneg fod yn ddigon hyderus ac abl i ddefnyddio Ffrangeg yn effeithiol yn eu bywydau bob dydd.
Y tri amcan taleithiol ar gyfer Ffrangeg fel Ail Iaith yw: :
- Cynyddu hyder, hyfedredd a chyrhaeddiad disgyblion
- Cynyddu'r nifer o ddisgyblion sy'n astudio Ffrangeg nes eu bod yn graddio (yn 18 mlwydd oed)
- Cynyddu ymrwymiad rhanddeiliaid mewn astudio Ffrangeg (disgyblion, addysgwyr, rhieni, y gymuned ehangach – gan obeithio y bydd hyn yn cynorthwyo’r disgyblion wrth iddynt ddysgu)
Roedd y nodweddion tebyg rhwng yr amcanion hyn a thri amcan strategol Dyfodol Byd-eang – cynllun i wella a hyrwyddo ieithoedd tramor modern yng Nghymru – yn rhyfeddol. Cawson ni ein synnu wrth ddysgu bod Ontario – talaith lle mai Saesneg yw'r brif iaith – hefyd yn wynebu gostyngiad yn y nifer o ddisgyblion sy'n dewis parhau i astudio Ffrangeg ar ôl y cyfnod gorfodol o hyd at 14 mlwydd oed.
Sylwon ni fod heriau Ffrangeg fel Ail Iaith Ontario yn debyg i'r rheini o astudio Cymraeg fel ail iaith yng Nghymru. Mae'r sialensiau hyn yn cynnwys yr angen i hyrwyddo gwerth dysgu'r ieithoedd hyn mewn awyrgylch Saesneg.
Er mwyn cyrraedd y nodau uchod, ysgrifennodd y weinyddiaeth fframwaith ar gyfer Ffrangeg fel Ail Iaith yn 2013 sy'n cynnwys tri chynllun:
Ffrangeg fel Ail Iaith yn Ontario – Vive la différence! |
||
Ffrangeg Sylfaenol |
Ffrangeg Estynedig |
Trochi mewn Ffrangeg |
Dysgu Ffrangeg fel pwnc |
Astudio Ffrangeg ac o leiaf un pwnc arall drwy gyfrwng Ffrangeg |
Astudio Ffrangeg ac o leiaf ddau bwnc arall drwy gyfrwng Ffrangeg
|
Cyfanswm o dros filiwn o ddisgyblion |
Cynllun deng mlynedd yw'r fframwaith, ble mae'n rhaid i bob ysgol osod targed fesuradwy bob tair blynedd, ac mae'n cael cefnogaeth gan gwricwlwm sy'n cynnwys disgwyliadau cyffredinol a phenodol, anogaeth ar gyfer athrawon a chyngor ar addysgu.
Mae'r dogfennau sy'n cyd-fynd â'r fframwaith yn cynnwys arweiniad cynhwysfawr a chefnogaeth i rieni disgyblion Ffrangeg fel Ail Iaith, sydd unwaith eto'n berthnasol iawn i'r mater o astudio Cymraeg fel ail iaith, ble y gallai manteision gwybyddol, cymdeithasol ac economaidd dwyieithrwydd gael eu hamlygu hyd yn oed yn fwy ymysg rhanddeiliaid.
Wrth ystyried y tri amcan hwn, bu newid yn null addysgeg dysgu Ffrangeg ar bob lefel, yn enwedig yn ymwneud â gramadeg, sy'n cael llai o bwyslais er mwyn hybu cyfathrebu â phwrpas clir. Er enghraifft, gellir adeiladu modiwl gwaith o gwmpas berf bwysig fel 'negodi', yn hytrach nag arwain gyda thema benodol. Dyma ddull rydyn ni fel cymuned ddysgu broffesiynol yn awyddus i'w drafod ar ôl dychwelyd i'n dosbarthiadau yng Nghymru.
Gan fod disgyblion ysgolion Ontario yn dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd diwylliannol, mae'r ddarpariaeth ar gyfer dysgu Saesneg yn bwysig iawn. Mae 26.6% o ddisgyblion y dalaith yn dod o gartrefi lle nad yw Saesneg na Ffrangeg yn cael eu siarad, ac mae cynlluniau sydd wedi cael eu teilwra'n arbennig wedi cael eu datblygu er mwyn mynd i'r afael ag anghenion dysgu gwahanol.
Trafodon ni pa mor berthnasol yw'r dull hwn ar gyfer dysgu Cymraeg fel iaith gyntaf ble gall cefndir a gallu ieithyddol amrywio'n fawr. Mae'r neges mai cyfrifoldeb pob addysgwr yw dysgu Saesneg i ddisgyblion yn adleisio ein neges ni mai cyfrifoldeb athrawon pob pwnc yw dysgu llythrennedd a rhifedd.
Yn olaf, roedd hi'n ddiddorol iawn dysgu bod y gwelliannau wedi cael eu cyflawni heb system arolygu genedlaethol, ac nad yw'r ffordd mae'r cwricwlwm yn cael ei gyflwyno yn cael ei phennu ond mai byrddau ysgol unigol ac ysgolion sy'n gwneud hynny ar gyfer y systemau Ffrangeg sylfaenol a'r cynllun trochi. Roedd y weinyddiaeth yn falch o'r ffaith mai gan Ontario mae un o'r cwricwla gorau yn y byd a daeth yn drydydd yn rhestr llythrennedd PISA yn 2015.
Ers cyrraedd Canada rydyn ni wedi mwynhau gweld arwyddion dwyieithog ar ffyrdd ac adeiladau cyhoeddus. Heddiw gwelon ni blac dwyieithog yn 900 Bay Street ble'r oedd y Ffrangeg wedi cael ei hysgrifennu yn yr amser gorffennol hanesyddol!
Soniodd ein cydymaith a rannodd ginio gyda ni ychydig am Ffrangeg Canada a'r ymgais bwrpasol i osgoi ymadroddion Seisnig, yn wahanol i'r Ffrangeg a ddefnyddir yng Ngwlad Belg, ble, yn ôl France, y Belgiad yn ein mysg, mae unrhyw beth yn cael ei dderbyn. Cododd y pwnc llosg: i ba raddau y dylid caniatáu i ieithoedd esblygu mewn byd technolegol sy'n newid o hyd? Mater arall sy'n berthnasol iawn i'r Gymraeg...
Diwrnod 2
Cawson ni'n deffro'n gynnar er mwyn gadael Toronto am ddiwrnod llawn dop gyda Bwrdd Ysgol Ardal Trillium Lakelands, sydd ddwy awr i'r gogledd o'r ddinas.
Roedd heddiw'n gyfle i weld sut mae bwrdd ysgol yn dehongli a gweithredu'r polisïau sy'n cael eu gosod gan y weinyddiaeth. Roedd hi'n amlwg bod llawer o feddwl a pharatoi wedi cael ei roi i'n hymweliad gan fod pobl bwysig yno. Er gwaethaf tywydd eithafol Canada, roedd pawb yno un ai yn y cnawd neu drwy'r offer cynadledda fideo.
Croesawodd Larry Hope, Cyfarwyddwr Addysg Bwrdd Ysgolion Ardal Trillium Lakelands, yr ymwelwyr o Gymru yn gynnes. Roedd hi'n amlwg o'r dechrau ei fod yr un mor gyffrous i gael syniadau a phrofiadau gan y criw o Gymru ac yr oedd am rannu arfer gwych ei ysgolion ei hun.
Yna rhoddodd Andrea Gillespie, yr Arolygydd Dysgu, drosolwg o gynllun gwella'r bwrdd a phwysleisiodd mai eu ideoleg sylfaenol tuag at ddysgu proffesiynol yw eu bod yn fwrdd sy'n holi a chwestiynu'r ffordd ymlaen.
Amlinellodd Jennifer Murphy, Ymgynghorydd Cwricwlwm Ffrangeg fel Ail Iaith a Dysgu Saesneg o'r ysgol feithrin i ddosbarth 12, y ddau brif fodel o ddysgu Ffrangeg sy'n digwydd yn nhalaith Ontario.
Mae disgyblion un ai yn dysgu Ffrangeg Sylfaenol neu'n cael eu Trochi mewn Ffrangeg.
Mae Ffrangeg Sylfaenol yn dechrau yn nosbarth 4 (9/10 oed) ac mae'n orfodol hyd at ddosbarth 8 (13/14 oed), mae'r disgyblion yma'n cael gwers Ffrangeg bob dydd.
Fel arall, gall disgyblion gael eu Trochi mewn Ffrangeg sef pan maen nhw'n dysgu pob pwnc drwy gyfrwng y Ffrangeg o'r Ysgol Feithrin Hŷn hyd at ddosbarth 8 (13/14oed). O'r Ysgol Feithrin Hŷn hyd at ddosbarth 3 (8/9 oed), bydd 100% o'r gwersi yn Ffrangeg. Mae hyn yn cael ei leihau'n raddol i 50% yn nosbarthiadau 7-8, sef y ddwy flynedd olaf yn yr ysgol gynradd.
Mae'r model diwethaf yn dod yn fwyfwy poblogaidd gan bod pobl yn cysylltu dwyieithrwydd â mwy o gyfleoedd am waith. Mae hefyd yn cael ei ystyried yn gyfle cynhenid i gyfoethogi.
Er mwyn mynd i'r afael â'r amcan cyntaf o gynyddu hyder disgyblion mewn Ffrangeg, mae ysgolion Ontario wrthi'n rhoi dull Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin dysgu ieithoedd ar waith, gyda'r gobaith o ddatblygu gallu llafar disgyblion i ddefnyddio'r iaith i gyfathrebu mewn cyd-destun pwrpasol.
Er mwyn cefnogi dysgu ieithoedd wedi ei ysbrydoli gan Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin, mae rhai disgyblion yn cael cyfle i gael cydnabyddiaeth ffurfiol ar ffurf arholiad DELF, sy'n cael ei ariannu gan y weinyddiaeth. Gellir sefyll arholiadau ar wahanol lefelau yn ddibynnol ar allu'r disgybl.
Ar ôl cinio, aethon ni i weld Ysgol Gynradd Leslie Frost. Maen nhw'n cynnig Ffrangeg Sylfaenol a Throchi mewn Ffrangeg. Roedd yn gyfle gwych i weld y theori a ddysgon ni yn ystod y diwrnodau cyntaf ar waith.
Er bod y tywydd garw wedi rhwystro nifer o ddisgyblion rhag dod i'r ysgol, llwyddon ni i arsylwi rhai dosbarthiadau a gweld disgyblion yn gweithio mewn amgylcheddau dosbarth ysbrydoledig. Roedd gweld disgyblion mor ifanc oedd mor hyderus yn siarad Ffrangeg yn drawiadol ac roedd hi'n amlwg bod mwy o bwyslais yn cael ei roi ar gyfathrebu nag ar gywirdeb gramadegol.
Cawson ni ein taro hefyd gan y berthynas waith bositif oedd yn bodoli rhwng y pennaeth a'i holl staff. Roedd hyn yn amlwg gan ei bod yn ymddiried ynddynt i reoli eu dosbarthiadau eu hunain, fel bod pob athro unigol yn gallu gwneud y mwyaf o botensial ei sgiliau a'i bersonoliaeth.
Day 3
Ar y trydydd diwrnod daeth y cyfle i ymweld ag ysgolion uwchradd, sy'n cyfateb i'n blynyddoedd 10 – 13 ni. Yn y bore aethon ni i Ysgol Uwchradd I E Weldon ble cawson ni ein croesawu gan y Pennaeth, Mark Cossarin.
Yn anffodus, o achos y ffyrdd peryglus o ganlyniad i law rhewllyd, doedd y bysus ysgol ddim yn gallu cludo disgyblion i'r ysgol ac felly nid oedden ni'n gallu cyfarfod â’r plant (mae'n braf gwybod mai nid ysgolion Cymru'n unig sy'n cau o weld pluen eira neu ddwy!)
Serch hynny, cawson ni gyfle i drafod yn helaeth gyda'r Pennaeth Ieithoedd, Stephanie Campbell, a rhai o'i thîm o athrawon ieithoedd. Trafodon ni sut mae'r dosbarthiadau'n cael eu trefnu a beth oedd cynnwys y gwahanol gynlluniau. Esbonion nhw wrthon ni sut maen nhw'n defnyddio'r arholiadau DELF a'r Fagloriaeth Ryngwladol i ysgogi ac ennyn diddordeb disgyblion.
Buon ni hefyd yn rhannu syniadau ac adnoddau gyda'n gilydd. Roedd gan yr athrawon o Ganada ddiddordeb mawr ym mhrosiect Llythrennedd Amlieithog ERW, yn ogystal â sut y gall technoleg gyfoethogi dysgu ac ennyn diddordeb disgyblion.
Bu cyfle hefyd i wrando ar farn athro Japaneeg. Roedd hi'n ddiddorol darganfod bod diwylliant yn rhan fawr o'i wersi a bod dysgu am ddiwylliant yn benodol yn cynyddu brwdfrydedd ei ddisgyblion tuag at ddysgu'r iaith. Mae gwneud yr iaith yn berthnasol wedi bod yn thema ganolog yn ein hymweliadau, boed yn ddysgu Ffrangeg fel ail iaith neu ddysgu ieithoedd eraill, er mwyn rhoi cymhelliad i ddisgyblion a dangos iddyn nhw bod gan yr ieithoedd gyd-destun tu allan i'r ysgol. Ym mhobman roedden ni'n mynd, roedden ni'n clywed bod dod â phrofiadau go iawn i'r dosbarth yn creu cymhelliad.
Yna teithion ni ar draws y dref i'r Central Senior Public School. Aeth Jamie, y Pennaeth, â ni i gyfarfod tri disgybl o ddosbarth 8 (sy'n cyfateb i'n blwyddyn 9 ni) a'u hathrawon ieithoedd Sarah a Robyn.
Roedd hi'n ddiddorol iawn siarad â nhw a chlywed eu barn ar ddysgu iaith arall, gan gynnwys beth sy'n eu cymell nhw i barhau i ddysgu Ffrangeg. Roedd y disgyblion yn awyddus i ddweud wrthon ni pa mor bwysig oedd hyder wrth deimlo eu bod yn llwyddiannus. Esbonion nhw eu bod yn mwynhau'r gwersi gan eu bod yn berthnasol i fywyd go iawn ac roedden nhw'n deall bod siarad iaith arall yn cynyddu eu siawns o gael gwaith.
Roedd y staff yn croesawu agwedd bositif Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin, gan ddweud ei bod yn help i gynyddu hyder a diddordeb disgyblion. Roedd yr athrawon i gyd yn cyfeirio at y fframwaith a'r cwricwlwm ieithoedd newydd, ac yn mwynhau datblygu'r dull ymarferol hwn at ddysgu ieithoedd. Daeth i'r amlwg fod y ffaith bod y cwricwlwm wedi ei seilio ar sgiliau hefyd yn galluogi'r athrawon i fod yn greadigol ac i gynnwys eu disgyblion wrth gynllunio'u cwricwlwm – cymhelliad gwych arall!
Ar ôl cinio aethon ni i Ysgol Gyhoeddus Alexandra a chael croeso cynnes gan Josette sy'n dysgu Ffrangeg Sylfaenol i ddosbarthiadau 4, 5, a 6 (blynyddoedd 5-7). Roedd gwrando ar blant dosbarth 4 yn cyflwyno eu gwaith am anifeiliaid mor hyderus yn anhygoel, er nad oedden nhw wedi bod yn dysgu Ffrangeg ers amser hir.
Cyflwynodd dosbarth 5 dref Lindsay inni drwy eu gwaith prosiect ar eu hoff weithgaredd ac roedd dosbarth 6 yn gweithio ar ddisgrifio eu swydd ddelfrydol.
Roedden nhw i gyd wrth eu boddau'n dysgu ieithoedd ac yn mwynhau sut roedd celf yn cael ei chynnwys yn eu prosiectau. Eglurodd Josette, yr athrawes ddosbarth, sut mae hi'n gwahaniaethu gwaith ar gyfer disgyblion yn y prosiectau a sut mae'n eu dysgu i ddefnyddio geiriau coeth i wella eu gwaith.
Mae'n rhaid diolch i Katherine McIver, yr Arolygydd Dysgu, am drefnu'r ymweliadau ac am aildrefnu pethau pan roedd y tywydd yn camfihafio. Diolch arbennig i'r holl staff a disgyblion am ein croesawu ni â charedigrwydd a brwdfrydedd, hyd yn oed ar fyr rybudd.
Diwrnod 4
Wrth iddi oeri yn Nhoronto, treulion ni ein pedwerydd diwrnod yng Nghanada yn ystafell gyfarfod gysurus yr Ontario Institute for Studies in Education (OISE) ym Mhrifysgol Toronto, lle'r oedd golygfa banoramig drawiadol o'r ddinas.
Trefnwyd rhaglen y diwrnod gan Evelyn Wilson, Cyfarwyddwr Cysylltiol Atebion Dysgu. Ar ôl darllen amcanion ein hymweliad, roedd hi wedi gwahodd yr anrhydeddus Dr Normand Labrie, i gyflwyno canlyniadau ymchwil a wnaed yn y brifysgol ar amlieithedd yn Ontario.
Mae'r Athro yn arbenigwr byd-enwog yn ei faes a gwellodd ei drafodaethau ein dealltwriaeth o gymhlethdodau sefyllfa ieithyddol Canada.
Yn dilyn hyn cafwyd sesiwn gan ddau ymgynghorydd iaith o Fwrdd Ysgol Toronto, Liliana Martins a Genevieve Robinson. Roedd y sgwrs hon yn arbennig o berthnasol inni fel grŵp, nid yn unig gan fod nifer yr ysgolion uwchradd a chynradd yn debyg i rai ERW, ond roedd nodweddion tebyg yn y ffordd roedden nhw'n cefnogi eu hathrawon a'u hysgolion i wella hefyd.
Mae'r ddwy ranbarth yn gweld bod niferoedd a chanlyniadau'n gwella o ganlyniad i ddysgu proffesiynol, cydweithio a phartneriaethau.
Rhannodd Liliana a Genevieve nifer o adnoddau ar-lein ar gyfer datblygiad personol gyda ni hefyd, yn ogystal â deunyddiau dysgu, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at ymchwilio a rhannu'r rhain gyda'n cydweithwyr dysgu yng Nghymru.
Treulion ni'r prynhawn yng nghwmni Judy Dennison, cyn-bennaeth ysgol Trochi mewn Ffrangeg, a siaradodd am oblygiadau eu poblogrwydd cynyddol yn y dalaith, a'r prif bryder oedd prinder o athrawon cymwys i ddiwallu'r angen. Mae cofrestru ar gyfer Trochi mewn Ffrangeg wedi cynyddu 40% rhwng 2005 a 2015, ac ymddangosodd yr adroddiad hwn yn y wasg yn ystod ein cyfnod yng Nghanada:
Rydyn ni wedi gweld balchder mawr yn llwyddiant ysgolion Ontario ym mhobman yr wythnos hon ar bob lefel, o ddisgyblion i athrawon, penaethiaid a gweinyddwyr.
Gorffennodd y pedwerydd diwrnod gydag Evelyn yn esbonio sut mae Canada wedi cyrraedd brig rhestr PISA yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Y prif reswm, meddai hi, oedd bod y cwricwlwm wedi cael ei symleiddio a bod y ffocws ar wella llythrennedd. Roedden ni'n meddwl bod y pwyslais ar lesiant ac nad oedd arolygon na phrofion cenedlaethol ar ôl 15 oed hefyd yn cyfrannu at y llwyddiant, gan roi rheolaeth i athrawon a chreadigrwydd i ddysgu pob disgybl yn unigol yn ôl ei allu.
Ar ôl cyfarfod tîm i gyd-drafod a pharatoi at adroddiad y bore canlynol, aeth rhai ohonon ni i 'drochi' ein hunain yn y diwylliant lleol drwy gefnogi'r Toronto Maple LeAfs (D.S. nid Leaves) yn eu gêm yn erbyn St Louis. Er i'r tîm cartref golli, rhoddodd y gêm flas inni o'r diwylliant chwaraeon lleol, a chawson ni hefyd flas o'r pryd 'poutine' o Ganada, sef sglodion, caws a grefi!
Diwrnod 5
Heddiw daeth ein hwythnos yng Nghanada i ben. Er mwyn inni rannu ein casgliadau, roedd cyfarfod wedi cael ei drefnu yn ein gwesty, Holiday Inn Downton Toronto. Yn ychwanegol at y ddirprwyaeth o Gymru, daeth Beth Davies, Rheolwr Materion Allanol Llywodraeth Cymru sy'n gweithio yn Washington DC aton ni, yn ogystal â Timmy Anand, Cydgysylltwr Cenedlaethol a Rhyngwladol a Linda Kuehr, Swyddog Addysg o'r Weinyddiaeth Addysg, ac Odette Valero, Cydlynydd Prosiect o British Council Canada.
Ar ôl diolch i’n gwestywyr am eu rhaglen wych a’u hyblygrwydd i newid ein hamserlen ar ôl i’r tywydd amharu ar ein cynlluniau gwreiddiol, fe amlinellon ni’r nodweddion tebyg a gwahanol roedden ni wedi sylwi arnynt rhwng ein systemau addysg. Yna, buon ni’n trafod llwyddiant ysgubol Ontario gyda’i safle yn y canlyniadau PISA rhyngwladol a pha elfennau y gallwn ni eu defnyddio yng Nghymru er mwyn gwella ein safle. Roedden ni wedi ein plesio’n arw gan y ffaith eu bod yn defnyddio’r Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin er mwyn datblygu hyder darllen y disgyblion.
Yna, cyflwynodd pob ysgol arweiniol eu canfyddiadau yn unol a’u hymholiadau unigol. Roedd rhain yn cynnwys:
- Defnyddio technoleg ddigidol er mwyn gwella dysgu ac addysgu ieithoedd tramor modern.
- Datblygu cysylltiadau gyda rhieni a chymunedau er mwyn cefnogi disgyblion sy’n dysgu ieithoedd.
- Datblygu sgyrsiau digymell mewn gwersi ieithoedd tramor modern er mwyn meithrin hyder a chymhelliant disgyblion.
- Sicrhau bod grwpiau penodol o ddisgyblion (disgyblion Mwy Galluog a Thalentog (MAT), disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, a disgyblion sy’n cael cinio ysgol am ddim) yn cyrraedd eu llawn botensial.
- Defnyddio strategaethau iaith amlieithog er mwyn helpu i ddysgu pob iaith.
Er mwyn i’n gwaith ymchwil gael yr effaith fwyaf, buon ni’n esbonio ein cynllun er mwyn dyrannu a defnyddio’r wybodaeth newydd yma. Yn ystod y tymor nesaf, bydd yr ysgolion arweiniol yn cwrdd i ddatblygu adnoddau ar sail y Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin, ac mewn grwpiau o dair ysgol ymhob awdurdod lleol yn arbrofi gyda’r strategaethau addysgu newydd. Yna, bydd canlyniadau’r strategaethau yma yn cael eu trafod yn ein cyfarfodydd rhwydweithio dros yr haf ac yn cael eu rhannu â’r 62 ysgol uwchradd ERW.
I gloi, bu Anna Vivian Jones, Cydlynydd ERW y Rhanbarth ar gyfer ieithoedd modern yn esbonio sut mae’n bwriadu adrodd am ei chanfyddiadau ar lefel strategol genedlaethol, drwy’r Grŵp Llywio Cenedlaethol ar gyfer Ieithoedd Modern a’r grŵp ar gyfer Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu wrth iddo ddatblygu maes llafur newydd i Gymru.
Diolch yn fawr i’r British Council, Llywodraeth Cymru a phawb yn Canada am y profiad unigryw hwn a fydd yn cyfoethogi ein darpariaeth dysgu ieithoedd yn ein hysgolion ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol. Bydd y partneriaethau a ffurfiwyd yn ystod y trip yma yn sicrhau y bydd effaith y prosiect yn un pellgyrhaeddol a bydd y gallu i wella yn cael ei ddatblygu ar ddwy ochr i’r Iwerydd.
A rhag ofn bod rhai ohonoch yn poeni ein bod ni wedi bod yn gweithio’n rhy galed, fe WNAETHON ni ffeindio’r amser i fynd i ben Tŵr CN ac ymweld â Rhaeadr Niagra. Heb os, mae Ontario yn ddinas amrywiol, brydferth a chroesawgar i ymweld â hi!
Diolch hefyd i Odette Valero o British Council Canada ac i’r canlynol yn y Weinyddiaeth am roi o’u hamser cyn ac yn ystod yr ymweliad gwych yma:
- Timmy Anand, Ymgysylltu Cenedlaethol a Rhyngwladol, Cangen Cydlynu Corfforaethol
- Maureen Callan, Rheolwr
- Dan Bowles, Swyddog Addysg, Cangen Polisi Asesu a’r Maes Llafur
- Elizabeth Hoerath, Rheolwr, Cangen Gwasanaethau Maes
- Gillian Hall, Swyddog Addysg, Cangen Polisi Asesu a’r Maes Llafur
- Naomi Silver, Uwch Gynghorydd Polisi, Cangen Polisi Llwyddiant Myfyrwyr