Gwybodaeth am y digwyddiad

Yn y digwyddiad digidol yma buom ni’n archwilio’r Model Ysgolion Cymunedol lle mae ysgol yn lleoliad a hefyd yn set o bartneriaethau rhwng yr ysgol a nifer o adnoddau cymunedol eraill.

Gwahoddwyd ysgolion ledled Cymru sydd â diddordeb yn null yr Ysgol Gymunedol i gofrestru ar gyfer y digwyddiad – i glywed gan ysgolion ac athrawon yng Nghymru sydd eisoes wedi rhoi elfennau o arfer gorau ar waith yn y maes yma yn ogystal â rhannu profiadau elusennau ac arbenigwyr rhyngwladol yn y maes.

Bu’r siaradwyr gwadd yn archwilio amrywiaeth o bynciau’n ymwneud ag Ysgolion Cymunedol a rhannu eu profiadau o ymweliadau astudio Cymunedau Dysgu Proffesiynol Rhyngwladol i Fflorida ag Efrog Newydd.

Roedd y pynciau’n cynnwys: 

  • Cyflwyno’r Model Ysgolion Cymunedol
  • Partneriaethau aml-asiantaeth
  • Ymgysylltiad a chyfranogiad rhieni a theuluoedd
  • Iechyd a Lles mewn ysgolion cymunedol

Digwyddiad gyda phanel oedd hwn - gyda siaradwyr o Gymru ac Unol Daleithiau America, ac yna sesiwn o gwestiynau gan y gynulleidfa. 

  • Presentation: Dr Joanne Ferrara (Adobe PDF 874KB)
  • Presentation: Lindsey Watkins (Adobe PDF 5MB)
  • Presentation: Dr Suzanne Sarjeant & Julie Jenkins (Adobe PDF 2MB)
  • Presentation: Karen Tuck (Adobe PDF 76KB)
  • Mae Dr. JoAnne Ferrara yn addysgwr profiadol sy’n arbenigo mewn ysgolion cymunedol a phartneriaethau rhwng prifysgolion. Ffocws ei gwaith yw meithrin gallu unigolion sy’n gweithio yn lleoliadau addysgol hyn.

    Lindsey Watkins yw prifathrawes Ysgol Gynradd Millbrook yng Nghasnewydd. Mae’r ysgol wedi mabwysiadu dull yr ysgol gymunedol ers dros ddegawd - yn dilyn ymweliad astudio i Efrog Newydd gyda’r British Council. Cred yr ysgol yw: er mwyn gallu rhoi cefnogaeth effeithiol i’r plentyn, mae’n rhaid rhoi cefnogaeth i’n teuluoedd; ac er mwyn cefnogi ein teuluoedd yn effeithiol, rhaid i’r ysgol gefnogi a chofleidio ei chymuned. 

    Yn ddiweddar mae Dr Suzanne Sarjeant, prifathrawes Ysgol Gynradd Pencoed, wedi cwblhau Doethuriaeth mewn ymgysylltu â rhieni a theuluoedd. Julie Jenkins yw Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd yr ysgol. Mae’r ysgol yn rhoi pwyslais arbennig ar ymgysylltu â rhieni a theuluoedd, lle mae rhieni yn gweithredu fel eiriolwyr yn y gymuned drwy gyfrwng eu Fforwm i Deuluoedd a’r Clwb Heulwen.

    Mae Sam Greasley, prifathro Ysgol Gynradd Awel y Môr , wedi defnyddio dull yr ysgol gymunedol i sicrhau fod iechyd a lles yn rhan annatod o fywyd yr ysgol. Drwy ymgysylltu ag asiantaethau allanol, fel cynghorwyr ysgol a therapyddion lleferydd, mae wedi sicrhau y rhoddir blaenoriaeth i iechyd a lles y dysgwyr.

    Mae gwella perthnasoedd rhwng staff, rhieni a theuluoedd wedi bod yn flaenoriaeth i Ysgol Gynradd Pendyrus. Mae Karen Tuck, prifathrawes yr ysgol, wedi gweithio i chwalu rhwystrau drwy ddefnyddio swyddog ymgysylltu teuluoedd, meithrin cysylltiadau cyn-ysgol a chynnig cefnogaeth i rieni a theuluoedd drwy asiantaethau allanol. Mae’r ysgol hefyd yn darparu gweithdai a phrosiectau cydweithio i hybu’r nod o ymgysylltu â rhieni a theuluoedd a’u grymuso i gymryd rhan weithredol yn yr ysgol a’r gymuned.

    Cafodd y digwyddiad yma ei gynnal ddydd Mawrth 27 Ebrill 2021.Hoffem wybod beth oedd eich barn am y digwyddiad yma. Gallwch adael i ni wybod drwy lenwi ein  ffurflen adborth

    Rhannu’r dudalen hon