Acrobatwyr yn hongian ar raff fertigol
  ©

TUIDA

Mae digwyddiad Dyfodol Creadigol Y Deyrnas Unedig/Corea 2017 yn flwyddyn o ddathliad a fydd yn arddangos creadigrwydd ac arloesedd y DU a Chorea mewn tymor o ddigwyddiadau celfyddydol a diwylliannol a fydd yn cael eu cynnal yn y gwledydd hynny.

Byddwn ni'n arddangos y gorau o'n diwydiannau creadigol gan gynnwys dawns, theatr, ffilm, celfyddydau gweledol, llenyddiaeth, cerddoriaeth, pensaernïaeth, dylunio a ffasiwn rhwng mis Chwefror 2017 a mis Mawrth 2018 mewn nifer o ddinasoedd yng Nghorea.

Bydd y tymor yn fodd o gysylltu â chynulleidfaoedd newydd, datblygu cyfleoedd cydweithio creadigol newydd a chryfhau'r berthynas rhwng gwledydd Prydain a Chorea.

Y gobaith yw y bydd y flwyddyn yn annog rhagor o gydweithio creadigol rhwng artistiaid a sefydliadau celfyddydol yng ngwledydd Prydain a Chorea, ac yn annog rhagor o symudedd ac arloesi yn y sectorau creadigol a'r celfyddydau.

Bwriad arall blwyddyn Dyfodol Creadigol yw ehangu busnesau, addysg a gwyddoniaeth gwledydd Prydain yng Nghorea, a hwyluso partneriaethau hirdymor a chynaliadwy drwy ddatblygu marchnad newydd, rhwydweithiau newydd a gwella symudedd.

Rydyn ni'n falch iawn bod dau brosiect o Gymru wedi cael eu dewis i fod yn rhan o dymor Dyfodol Creadigol Y Deyrnas Unedig/Corea a fydd yn dod ag artistiaid a sefydliadau celfyddydol blaenllaw o Gymru a Chorea ynghyd.

Rhaglen o brosiectau o Gymru:

Music Theatre Wales

Opera <The Golden Dragon>

31 Mawrth – 2 Ebrill 2017, Corea

Mae Music Theatre Wales yn gwmni opera teithiol cyfoes o Gaerdydd. 

Maen nhw'n perfformio gweithiau newydd sydd wedi'u comisiynu, yn ogystal â darnau diweddar sydd naill ai wedi mynd yn angof neu sydd heb eu gweld yng ngwledydd Prydain.

Maen nhw'n teithio'r byd yn perfformio gweithiau, ac yn hanes y cwmni dros y 22 mlynedd diwethaf, maen nhw wedi perfformio bron i 30 o gynyrchiadau ac 14 o berfformiadau première. Yn 2002, daeth Music Theatre Wales yn Gwmni Cysylltiol cyntaf i'r Tŷ Opera Brenhinol yn Llundain.

Yn dilyn llwyddiant y cwmni gyda'i berfformiad o Greek yn 2015, mae Music Theatre Wales mewn partneriaeth â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru yn dychwelyd i Ŵyl Gerddorol Ryngwladol Tongyeong yng Nghorea gydag opera gyffrous arall gan Peter Eötvös, a bydd y cwmni'n dod â'r opera'n fyw gyda'i arddull theatraidd a'i berfformiadau cerddorol nodweddiadol.

Mae <The Golden Dragon>, sydd wedi'i lleoli mewn bwyty Pan-Asiaidd mewn unrhyw ddinas yn y byd, yn opera chwedlonol sy'n seiliedig ar fywyd modern - mae'n ddoniol, yn ddychrynllyd ac yn deimladwy. 

Yn ystod eu cyfnod yng Nghorea, bydd Music Theatre Wales hefyd yn cyflwyno gweithdy deuddydd i hyd at ddeg o gyfarwyddwyr sydd â diddordeb mewn dysgu rhagor am gyfarwyddo opera gyfoes.

Rhagor o wybodaeth 

National Theatre Wales a Performance Group TUIDA (De Corea)

 Artists’ Playground: Tutbat

예술가들의놀이터

Preswyliaeth berfformio ryngwladol (Cymru a Chorea)

11 - 22 Medi 2017

Mae National Theatre Wales wedi bod yn creu cynyrchiadau Saesneg mewn lleoliadau ledled Cymru, gwledydd Prydain, yn rhyngwladol ac ar-lein ers mis Mawrth 2010. Maen nhw'n gweithio o leoliad bach yng nghanol dinas Caerdydd, ond maen nhw'n gweithio dros Gymru gyfan, a'r tu hwnt, gan ddefnyddio tirwedd gyfoethog ac amrywiol Cymru, ei threfi a'i phentrefi, ei straeon anhygoel a'i gwledd o dalent i'w hysbrydoli.

Mewn partneriaeth â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru, rydyn ni'n falch o gefnogi National Theatre Wales a'r Performance Group TUIDA (De Corea) i ddod ynghyd i gynnig cyfnod preswyl newydd sbon ac unigryw i artistiaid yn Ne Corea. Yn seiliedig ar brofiad a dulliau'r ddau gwmni, bydd Artists’ Playground yn canolbwyntio ar gefnogi creu syniadau arloesol, arbrofion artistig a chydweithio traws-ddiwylliannol.

Sut brofiad fydd hwn:

Mae Artists’ Playground ar gyfer artistiaid anturus, chwilfrydig a chydweithredol sy'n gweithio ar draws amrywiaeth o ffurfiau celf (theatr, coreograffi, ysgrifennu, celf fyw, gosodiadau, arferion digidol ac yn y blaen) ac sy'n chwilio am gyfle i dreulio amser yn datblygu eu harfer ochr yn ochr ag eraill. Yn ystod y cyfnod preswyl, bydd amser ar gyfer gwneud a rhannu gwaith newydd, myfyrio, trafod ac ymchwilio i ddulliau personol o greu, a sut mae gwaith yn cael ei wneud yn y byd ehangach.

Bydd y grŵp yn cynnwys grŵp amrywiol o 16 o artistiaid ar wahanol gamau yn eu gyrfaoedd, o'r rhai newydd i'r rhai mwy sefydledig. Fel cyfranogwr, byddwch yn cael y lle a’r amser i brofi syniadau, gan weithio gydag aelodau eraill o'r grŵp. Bydd cyfleoedd i chi rannu yr hyn yr ydych wedi bod yn ei wneud, ac i gymryd rhan mewn trafodaeth feirniadol.

DYDDIAD CAU: 31 Mawrth 2017 am 18:00 (GMT)

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â National Theatre Wales:

#NTWPlayground

Rhannu’r dudalen hon