Mae’r cyhoeddwyr Parthian Books a Bee Books yn cydweithio ar brosiect The Valley, The City, The Village, sy’n dod â chwe awdur ynghyd o Gymru ac India i ymchwilio i wledydd ei gilydd gan ddefnyddio’r profiadau hyn i ysgogi ac ysbrydoli gwaith newydd 

Mae pob grŵp o awduron bellach wedi teithio drwy’r wlad arall ac mae’r prosiect wedi arwain at gyhoeddi llyfr newydd o Gymru yng Ngŵyl Lyfrau Kolkata yn India ac ymddangosiadau grŵp yng Ngŵyl y Gelli a Gŵyl Llansteffan, prosiect preswyl yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy, yn ogystal â nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus eraill ledled Cymru. Cyhoeddwyd rhifyn arbennig o Wales Arts Review yn dilyn taith awduron o Gymru i India yn ystod gwanwyn 2017.

Penllanw’r prosiect fydd cyhoeddiad tairieithog o waith newydd mewn Bengaleg, Saesneg a’r Gymraeg.

Cyhoeddwyd podlediad gan dîm Llenyddiaeth y British Council yng Ngŵyl y Gelli 2017, mewn sgwrs ag awduron The Valley, The City, The Village 


Mae Sion Tomos Owen, sef un o’r awduron o Gymru ac sydd hefyd yn wneuthurwr ffilm, wedi creu dau fideo gwych sy’n dangos uchafbwyntiau o’r awduron yn India a Chymru. Gwyliwch y fideo o’r awduron yng Nghymru / Gwyliwch y fideo o’r awduron yn India 

Mae’r prosiect hwn yn rhan o India Cymru, menter ar y cyd rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r British Council sy’n cefnogi cydweithredu a chyfnewidiadau artistig rhwng aelodau o’r proffesiynau creadigol a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru ac India. Mwy o wybodaeth am India Cymru  

 

Dolenni allanol

Rhannu’r dudalen hon