Mae rhaglen Cymru Fyd-eang yn darparu cefnogaeth strategol i’r sector addysg uwch yng Nghymru drwy hyrwyddo’r sector mewn marchnadoedd tramor allweddol a meithrin rhwydweithiau rhyngwladol i Gymru. Mae’r rhaglen yn bartneriaeth rhwng Prifysgolion Cymru, British Council Cymru, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae’n cael ei rheoli gan Brifysgolion Cymru.
Cafodd y rhaglen ei sefydlu yn 2015 gyda rhaglen beilot tair blynedd. Yn 2018, cafodd ail gyfnod y rhaglen ei lansio, sef Cymru Fyd-eang II, gyda chymorth ariannol o £3.5M gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Bontio’r Undeb Ewropeaidd.
Amcanion Cymru Fyd-eang
• Cynyddu cyfran Cymru o farchnad y Deyrnas Unedig ym maes recriwtio myfyrwyr yn yr Undeb Ewropeaidd ac yn rhyngwladol
• Cynyddu amrywiaeth yn y corff o fyfyrwyr rhyngwladol
• Cynyddu nifer y partneriaethau Addysg Uwch a phartneriaethau ymchwil
• Codi proffil Cymru mewn marchnadoedd rhyngwladol allweddol
• Cynyddu grym cymell tawel hirdymor Cymru
Marchnadoedd blaenoriaeth
Mae Cymru Fyd-eang wedi sefydlu tri o farchnadoedd blaenoriaeth: UDA, India a Fietnam. Mae’n paratoi i fabwysiadu’r Undeb Ewropeaidd fel pedwerydd rhanbarth i’w blaenoriaethu yn 2021.
Mae gwaith y rhaglen o ddatblygu marchnadoedd yn amrywio o weithgareddau recriwtio i brosiectau cynyddu gallu, dirprwyaethau diplomyddol ac ymweliadau gyda golwg ar ddatblygu proffil Cymru, cynyddu partneriaethau academaidd ac addysgol a denu myfyrwyr ac ymchwilwyr i Gymru.
Un o nodweddion unigryw Cymru Fyd-eang yw gallu’r rhaglen i ddefnyddio dull datblygu ‘system i system’, gan wneud yn fawr o holl elfennau system Addysg Uwch Cymru (gan gynnwys y llywodraeth, rheoleiddio a’r sector) i ymateb yn chwim ac arloesol i ofynion gwledydd a sefydliadau partner.
Ysgoloriaethau
Mae Cymru Fyd-eang wedi datblygu amrywiaeth o ysgoloriaethau i hybu’r gwaith yma. Mae wedi ffurfio partneriaethau gyda rhai o’r sefydliadau rhyngwladol uchaf eu bri sy’n noddi ysgoloriaethau ledled y byd yn ogystal â lansio ei hysgoloriaeth nodedig ei hun - Ysgoloriaeth Cymru Fyd-eang. Mae’r ysgoloriaethau’n targedu gwledydd blaenoriaeth yn ogystal â gwledydd yr Undeb Ewropeaidd.
Astudio yng Nghymru
Mae’r brand, ‘Astudio yng Nghymru’, hefyd yn rhan ganolog o raglen Cymru Fyd-eang. Bellach, mae’n cyd-fynd yn agos â brand ‘Cymru Wales’ Llywodraeth Cymru ac yn targedu’r un tair marchnad blaenoriaeth yn ogystal â rhoi sylw ychwanegol i recriwtio myfyrwyr o Loegr.