Rydyn ni'n llawn cyffro i fod yn gweithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru i gefnogi wyth o gwmnïau celfyddydau perfformio o Gymru i gyflwyno'u gwaith yng Ngŵyl yr Ymylon Caeredin, sef gŵyl gelfyddydau mwyaf y byd.
Mae Gŵyl yr Ymylon Caeredin, sy'n cael ei chynnal rhwng 4 a 28 Awst 2017, yn gyfle gwych i gwmnïau celfyddydau perfformio Cymru gyflwyno'u gwaith i gynulleidfaoedd newydd ac i gael cydnabyddiaeth ryngwladol am eu gwaith.
Mae rhaglen Cymru yng Nghaeredin yn cynnwys wyth cynhyrchiad sy'n cynrychioli'r gorau sydd gan Gymru i'w chynnig ym myd theatr, gweithiau newydd, gwaith safle penodol a dawns gyfoes, ac sy'n adlewyrchu holl amrywiaeth ac ehangder y celfyddydau perfformio yng Nghymru.
Mae'r rhaglen yn cynnwys dwy sioe un dyn newydd, yn dangos agweddau gwahanol iawn ar fywyd cyfoes yng Nghymru; bydd Dirty Protest yn dychwelyd i'r ŵyl gyda Sugar Baby, comedi newydd gan Alan Harris am ddeliwr cyffuriau bach yng Nghaerdydd, tra bod (F.E.A.R.) gan Mr a Mrs Clark yn defnyddio atgofion plentyndod a ffilmiau gwybodaeth gyhoeddus i archwilio pa mor fregus mae iechyd meddylion dynion, ac i ofyn pa mor ddiogel - neu beidio - y mae'r byd am i ni deimlo.
Bydd tair drama arall yn cludo cynulleidfaoedd yn ôl i Brydain yr 20fed Ganrif; Seanmhair gan The Other Room, gwaith newydd arall, a ysgrifennwyd gan Hywel John, sef stori dreisgar, brydferth am ddau o blant sy'n cyfarfod ar hap yng Nghaeredin y 1950au. Mae The Revlon Girl gan Ganolfan Celfyddydau Pontardawe gan Neil Docking, gyda'i chast o ferched, yn adrodd stori wir am famau galarus Aberfan, yn y misoedd ar ôl i domen pwll glo gwympo yn 1966, gan ladd 116 o blant, yn canfod cysur yng nghwmni annhebygol cynrychiolydd gwerthu cwmni colur. Ac mae cynhyrchiad Flying Bridge Theatre o glasur Stephen MacDonald Not About Heroes yn edrych ar y cyfeillgarwch rhwng beirdd y Rhyfel Byd Cyntaf Siegfried Sassoon a Wilfred Owen, 100 mlynedd ar ôl iddynt gyfarfod.
Bydd y tri chynhyrchiad sy'n weddill hefyd yn ymddangos fel rhan o Arddangosfa 2017 y British Council; sef y cyfle mwyaf i gwmnïau theatr o Brydain gyflwyno'u gwaith i hyrwyddwyr rhyngwladol. Mae'r rhain yn cynnwys dwy sioe Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru sef Folk a Profundis, dau ddarn dawns byr gwahanol iawn - mae Folk yn farwnadol a bugeiliol, a Profundis yn llawn ffraethineb ac elfennau ôl-fodernaidd - sy'n dangos dawnswyr y cwmni ar eu gorau. Bydd Seagulls gan Volcano Theatre yn llwyfaniad a ailgrewyd yn ddramatig o The Seagulls gan Chekhov, wedi'i pherfformio yng nghorff eglwys adfeiliedig yn Leith, y bydd ei changell yn cael ei gorlifo ar gyfer y perfformiadau. Ac mae Caitlin gan Light, Ladd & Emberton yn ddarn dawns treisgar cynnil lle mae gwraig Dylan Thomas, Caitlin, yn camu allan o gysgod ei gŵr ond yna'n cael ei thynnu yn ôl i mewn iddo yn ddi-ildio. Arddangosfa ddwyflynyddol Caeredin y Cyngor Prydeinig yw'r cyfle mwyaf i gwmnïau theatr y DU gyflwyno eu gwaith i hyrwyddwyr rhyngwladol.
Mae manylion llawn am bob un o'r wyth cynhyrchiad i'w gweld isod.