Prosiect mawr newydd yw Dreamtigers, lle bydd Ffotogallery (Cymru) a Sefydliad Nazar/Gŵyl Ffoto Delhi (India) yn cydweithio ar gyfres o gyfnodau preswyl ac arddangosfeydd wedi'u curadu. Bydd artistiaid a gweithwyr creadigol proffesiynol o Gymru ac India yn gweithio yng ngwledydd ei gilydd er mwyn creu, curadu a chyflwyno gwaith newydd sy'n adlewyrchu sut mae creadigrwydd, technoleg ac ymdeimlad newydd o hunaniaeth genedlaethol yn siapio bywydau cenedlaethau'r dyfodol mewn cymdeithas sydd bellach yn fyd-eang.

Defnyddir ffotograffiaeth a chyfryngau’n seiliedig ar lens i archwilio’r 'India go iawn' a’r India arall sydd lawn mor bresennol a phwysig – India ddychmygol sydd wedi esblygu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac wedi gweddnewid ei hun ym mywyd cyhoeddus ac ym meddyliau pobl India. 

Bydd Dreamtigers yn dangos Cymru hithau fel cenedl sy’n wynebu’r dyfodol ac yn edrych allan ar y byd, gan ddefnyddio'r sgiliau creadigol, yr arloesedd a'r uchelgais sydd ganddi er mwyn gwella'r rhagolygon ar gyfer ei holl ddinasyddion.

Ym mis Mawrth 2017, bydd Ffotogallery yn cyflwyno'r dangosiad cyntaf yng ngwledydd Prydain o Kanu's Gandhi, arddangosfa newydd o luniau prin a phersonol o Mahatma Gandhi gan ei or-nai a'i groniclydd personol, Kanu Handhi. Wedi'i guradu gan Prashant Panjiar a Sanjeev Saith.

Bydd dau guradur ifanc o India, Anshika Varma a Bhooma Padmanabhan, yn treulio cyfnodau preswyl yng Nghymru, gan gyfrannu at osodwaith o arddangosiadau yn Diffusion Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd ym mis Mai 2017

Fel estyniad i Diffusion, bydd Anshika Varma a Bhooma Padmanabhan yn gweithio gyda Iona Fergusson, curadur o Gymru, er mwyn cynhyrchu A Million Mutinies Later – India at 70, arddangosfa benodol am India, yn Ffotogallery ym mis Mehefin, dan oruchwyliaeth Prashant Panjiar o India a David Drake o Gymru.  

Mae arddangosfa A Million Mutinies Later – yn yr Angel, Caerdydd a Thŷ Turner, Penarth rhwng 1 a 22 Gorffennaf 2017 – yn ystyried India gyfoes fel syniad ac fel gofod, a hynny drwy weithiau pymtheg artist o India sy'n defnyddio celf yn seiliedig ar lens, deunyddiau archif a deunyddiau torfoli er mwyn astudio'r chwyldroeon bob dydd sy'n gweddnewid y wlad bob yn dipyn. Mae'r arddangosfa yn cynnwys gwaith gan artistiaid profiadol o India fel Shilpa Gupta, Bharat Sikka a Sohrab Hura, a sawl artist nad ydynt wedi cael sylw y tu allan i India hyd yma.

Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, bydd artistiaid a churaduron o'r ddwy wlad yn cydweithio er mwyn ystyried themâu prosiect Dreamtigers ymhellach, a byddant yn cyflwyno'r gwaith newydd ledled India.

Grŵp o ferched yn gwisgo saris lliwgar
©

Arko Datto, o Piknik

Dolenni allanol

Rhannu’r dudalen hon