©

Cardiff Dance Festival 

Mae Interruption yn brosiect cydweithredol rhwng Gŵyl Ddawns Caerdydd (CDF17) a Basement 21 – grŵp o artistiaid creadigol sydd wedi’u lleoli yn Chennai yn India – sy’n dwyn ynghyd artistiaid dawns unigol o India a Chymru mewn cyfres o brosiectau preswyl cyhoeddus yng Nghaerdydd a pherfformiadau yng Ngŵyl Ddawns Caerdydd 2017.

Bydd pedwar ymarferydd o Basement 21, gan gynnwys dau goreograffydd, cyfarwyddwr theatr/artistiaid gweledol a cherddor/cyfansoddwr, yn treulio cyfnod preswyl yng Nghaerdydd o ddiwedd mis Hydref 2017 a thros gyfnod Gŵyl Ddawns Caerdydd (CDF17). Yn ystod y cyfnod hwn byddant yn gweithio’n agos â phedwar aelod o’r proffesiynau creadigol yng Nghymru i rannu, arbrofi a datblygu eu gwaith. Bydd eu gwaith arbrofol yn waith aml-ddisgyblaeth, a phenllanw’r gwaith fydd elfennau amrywiol o berfformiadau cyhoeddus, gan gynnwys perfformiad yng Ngŵyl Ddawns Caerdydd ar 17 Tachwedd 2017.

Ar ymweliad diweddar â Chaerdydd, fe nododd Basement 21 sawl lleoliad yng nghanol y ddinas er mwyn trefnu perfformiadau. Yn unol â theitl y prosiect, Interruption, cynhelir y perfformiadau mewn mannau cyhoeddus nad ydynt yn cael eu defnyddio fel arfer ar gyfer cyflwyno’r celfyddydau.

Ar gyfer y prosiect hwn, bydd Gŵyl Ddawns Caerdydd yn gweithio’n agos ag ATRiuM, sef canolfan addysgu o bwys i’r diwydiannau creadigol yn y de.

Dydd Gwener 17 Tachwedd yng nghanol dinas Caerdydd

08.30 — Y Farchnad Ganolog 

12.00 — ATRiuM, Prifysgol De Cymru

15.00 — Llyfrgell Ganolog Caerdydd 

16.15 — Y Farchnad Ganolog     

Mae’r prosiect hwn yn rhan o India Cymru, menter ar y cyd rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r British Council sy’n cefnogi cydweithredu a chyfnewidiadau artistig rhwng aelodau o’r proffesiynau creadigol a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru ac India. Mwy o wybodaeth am India Cymru  

Dolenni allanol

Rhannu’r dudalen hon