Partneriarth rhwng rhaglen ddawns Chapter Coreo Cymru, y cwmni amlgyfryngau 4Pi Productions a The Dance worx India yw Liminality. Mae’r prosiect yn cefnogi creu ffilm dawns 360° Fulldome newydd sydd wedi’i choreograffu ar y cyd gan yr artistiaid dawns o Gymru, Kim Noble a Hugh Stanier a’i chyfarwyddo gan 4Pi Productions. Mae’r ffilm yn cynnwys cast o dros 30 o ddawnswyr cyfoes o India a sgôr cerddorol newydd wedi’i chreu gan y cerddor rhyngwladol adnabyddus Grey Filastine.
Mae’r darn hwn yn archwilio’r cyfosodiad rhwng ysbrydolrwydd a diwydiant, ac yn pwysleisio’r tebygrwydd rhwng India a Chymru a’r berthynas sydd yn esblygu rhwng y ddwy wlad. Mae’n cael ei ffilmio mewn lleoliadau arfordirol a dinesig yn Ne Cymru, Delhi a Goa, i greu profiad ‘ymdrochol’ fer 360° o’r esthetig ddawns gyfoes.
Ym mis Gorffennaf 2017, daeth dau o ddawnswyr cyfoes India o Dancewrox Manas a Devasmita, i Gymru i ymarfer gyda dawnswyr cyfoes o Gymru ac i ffilmio mewn lleoliadau yn Ne Cymru gan gynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Trevilis, Pont Cludo Casnewydd ac argae Bae Caerdydd.
Bydd y prosiect yn teithio i India ym mis Tachwedd 2017 i barhau’r gwaith o ffimlio mewn lleoliadau yn Delhi a Goa.
Bydd y ffilm 360º Liminality ar gael i’w gwylio o Ebrill 2018 ymlaen, drwy blatfformau rhithrealiti ar-lein, ac yn cael ei dangos mewn lleoliadau ar draws India a thu fewn i sinema symudol Dance Dome 360º mewn lleoliadau ar draws Cymru ac amryw o wledydd gwahanol (I’w gadarnhau).
Mae’r prosiect hwn yn rhan o India Cymru, menter ar y cyd rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r British Council sy’n cefnogi cydweithredu a chyfnewidiadau artistig rhwng aelodau o’r proffesiynau creadigol a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru ac India. Mwy o wybodaeth am India Cymru