Pedair menyw ar y llwyfan yn dal llyfrau
Cysylltiadau Cerddi yng Ngŵyl y Gelli 2017 ©

Lyndsey Halliday 

Gan fynd i’r afael â thema eang annibyniaeth, bydd y prosiect o Gymru, Llenyddiaeth ar draws Ffiniau, yn gweithio gydag amrywiaeth o wyliau, awduron, cyhoeddwyr a chyfieithwyr ledled India a Chymru i ddatblygu cyfres o breswyliadau ar y cyd, perfformiadau byw a gweithdai gyda phobl ifanc.

Bydd deg bardd o India a Chymru yn cymryd rhan mewn prosiect sy’n canolbwyntio ar thema annibyniaeth i gofnodi 70 mlynedd ers annibyniaeth India. Bydd y beirdd yn cydweithio i greu gwaith newydd yn ystod cyfres o ymweliadau preswyl yn y ddwy wlad yn ystod 2017, gan fynd â beirdd o sŵn a bwrlwm dinasoedd India i dawelwch heddychlon trefi a phentrefi yng Nghymru, ac o un pen o’r wlad i’r llall.

Yn ystod y cyfnodau preswyl, bydd y prosiect yn ystyried ffyrdd y gallai ‘annibyniaeth’ hefyd olygu cydnabyddiaeth o ‘gyd-ddibyniaeth’ a chydweithredu a dialog ar draws sawl gagendor eang. Bydd y beirdd yn gweithio mewn parau, gyda’r bardd brodorol yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus.

Cynhaliwyd ‘Mela Llenyddol’ yng Ngŵyl y Gelli 2017, ynghyd â chyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus yng Nghymru a bydd y prosiect yn parhau i roi llwyfan i’r gwaith a gaiff ei gynhyrchu mewn cyfres o berfformiadau, darlleniadau a thrafodaethau yn ystod tymor gwyliau llenyddol y gaeaf yn India pan fydd cyhoeddiad amlieithog gyda gwaith beirdd mewn Bengaleg, Canareg, Khasi, Malaialam, Saesneg a’r Gymraeg yn cael ei gyhoeddi.

Mae’r prosiect hwn yn rhan o India Cymru, menter ar y cyd rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r British Council sy’n cefnogi cydweithredu a chyfnewidiadau artistig rhwng aelodau o’r proffesiynau creadigol a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru ac India. Mwy o wybodaeth am India Cymru

Dolenni allanol

Rhannu’r dudalen hon