Bydd Winding Snake Productions yn cydweithio gydag artistiaid yn India a Chymru i archwilio pwysigrwydd celf o fewn ein hamgylchedd cymdeithasol newidiol. 

Rangoli: the art that binds yw prosiect celfyddydau amlgyfryngau cyfranogol ar gyfer menywod a merched yng Nghymru ac India. Cyfeillgarwch yw ffocws y prosiect: cyfeillgarwch rhwng menywod a merched, celf a diwylliant, a Chymru ac India.

Ffurf gelfyddydol addurnol o India yw Rangoli, sydd, yn draddodiadol, wedi’i dylunio a’i chreu gan fenywod. Mae’n ymarfer sydd yn cael ei throsglwyddo o genedl i genedl. Mae gan bob gwladwriaeth yn India ei harddull ei hun o Rangoli, ond mae’r technegau sydd yn cael eu defnyddio, sef system dot a grid, yn debyg iawn. Mae pob dyluniad yn gymesur ac wedi’u dylunio i adlewyrchu’r byd naturiol.

Mae Rangoli yn ymwneud â chreu syniad o gydbwysedd; credir yn gyffredin mae “Rangoli yw bywyd”, ac ei fod yn “puro ac yn codi uwchlaw gofod ac amser” (Ralph M. Steinman, 1989). 

I lawer o bobl, mae creu Rangoli yn ddigwyddiad ysbrydol, a dywedir ei fod yn dod a lles i’r wyneb. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y deunyddiau a ddefnyddir i greu Rangoli, megis blodau, tywod a reis: mae’r holl ddeunyddiau yn rhan o amgylchedd yr unigolyn, ac yn symbol o fywyd.

Mae’r gair ‘Rangoli’ yn tarddu o Sanskrity sydd yn golygu ‘mynegiad o weledigaeth artistig drwy’r defnydd llawen o liw’.

Yn ystod y prosiect, bydd artistiaid ac animeiddwyr o Gymru ac India yn archwilio’r berthynas rhwng celfyddyd gwerin Rangoli a chyfeillgarwch menywod, ac yn cyflwyno ac yn dathlu’r ymarfer o wneud Rangoli gyda menywod a merched yng Nghymru. 

Gan weithio gydag artistiaid benywaidd yn y ddwy wlad; bydd Dr Been Jain o Brifysgol Rajasthan a Rajni Kiran-Jha o Delhi a’r animeiddwyr o Gymru Rosie Holtom ac Amy Morris yn gweithio ar y cyd i greu dyluniadau Rangoli Indo-Geltaidd. Fe fydd cyfres o ddigwyddiadau a gweithdai yng Nghymru; yn Chapter yng Nghaerdydd a Theatr Small Word yng Ngheredigion, ac yn India; yn Jawahar Kala Kendra yn Jaipur a Chanolfan India Habitat yn Delhi. Bydd y gwaith celf Rangoli sydd yn cael ei greu gan y gymuned yn cael ei droi’n gyfres o ffilmiau byr symud.

Mae’r animeiddiwr Amy Morris wedi cydnabod pwysigrwydd y rôl y gall cydweithrediadau artistig tebyg eu chwarae yn y gymuned. “Un o brif elfennau Rangoli yw ei byr barhad; cyn gynted ag y bydd darn yn cael ei greu mae’n dechrau cael ei ddinistrio gan yr elfennau a symudiad y bobl yn y gymuned wrth iddynt fyw eu bywydau bob dydd, ac mae’r gweddillion yn cael eu hysgubo gan y diwrnod nesaf yn barod am greadigaeth newydd i gymryd ei le. Mae’r byr barhad hefyd yn rhan annatod o ffurfiau animeiddio stop-symudiad, lle mae rhaid dinistrio pob ffrâm er mwyn creu’r ffrâm nesaf. Yn y modd hwn, animeiddio yw’r cyfrwng perffaith i ddal hanfod y Rangoli.”

I ddilyn cynnydd y prosiect, ewch i wefan Art that binds 

Mae’r prosiect hwn yn rhan o India Cymru, menter ar y cyd rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r British Council sy’n cefnogi cydweithredu a chyfnewidiadau artistig rhwng aelodau o’r proffesiynau creadigol a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru ac India. Mwy o wybodaeth am India Cymru. 

Dolenni allanol

Rhannu’r dudalen hon