Rhwydwaith newydd sbon rhwng India a Chymru sydd yn ceisio archwilio’r broses gydweithredu, y celfyddydau gweledol, a gofodau ‘yn y canol’ yw The Rejoinders.
Bydd y prosiect hwn yn dod â chydweithredwyr creadigol a dadansoddol o Mumbai, India a Chaerdydd a’r DU ac o amrywiaeth o ymarferion gan gynnwys celfyddyd gain, dylunio graffig, dylunio ar gyfer y we, recordio sain, a daearyddiaeth at ei gilydd.
Gyda’i gilydd, byddant yn archwilio ymarferion celfyddyd gweledol, ac yn datblygu model cydweithredol curadurol a ellir ei fabwysiadu gan y sector celfyddydau ehangach. Byddant yn rhannu eu canfyddiadau a’u trafodaethau, fydd yn cynnwys cynnwys gweledol a chlywedol, ar blatfform ar-lein newydd a fydd yn cael ei lansio ddiwedd mis Medi.
Ym mis Mai 2017, daeth dau artist o Mumbai i Gymru i gwrdd ag aelodau eraill o’r grŵp The Rejoinders. Daethant at ei gilydd i adnabod y mannau cychwyn ar gyfer ymchwil a thrafod naratifau croestoriadol, Cafwyd digonedd o de, teisennau a sgyrsiau yn ogystal ag ymweliadau i sefydliadau celfyddydol, stiwdios a galeriau ar draws Cymru a fu’n gymorth i’r artistiaid ddeall ecoleg y celfyddydau yng Nghymru yn well.
Bydd grwpiau ymchwil The Rejoinders yn gweithio gydag artistiaid lleol a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru ac yn India i greu cyfres o ddigwyddiadau o Chwefror 2018 ymlaen, fydd yn cynnwys ymweliadau cyfnewid rhwng Cymru ac India.
Dyma ddau aelod o’r grŵp The Rejoinders yn esbonio pwysigrwydd cydweithredu
Jess Mathews, curadur/cynhyrchydd a darlithydd mewn celfyddyd gain
Mae ein prosiect wedi ei hadeiladu o amgylch arloesesi, cydweithredu a chyfnewid gywir, gan geisio dod o hyd i set newydd o feini prawf y gallwn eu defnyddio….os ydyn ni am fynd ati i wneud yr hyn i ni wybod a’i ddeall yn barod, yna mewn ffordd, methiant yw hynny … dim ond drwy gyrraedd mannau nad ydynt yn gyfarwydd i ni y gallwn sicrhau y bydd y prosiect hwn o ddiddordeb i’r grŵp ymchwil … Un o’m mhrif bryderon fel curadur yw sicrhau ein bod yn buddsoddi mewn rhywbeth sy’n ddilys, mae’n rhaid iddo fod yn newydd ac yn llawn gwaith ar y cyd
Amanda Colbourne, Ymgynghorydd Gwerthuso
Bydd unrhyw un sydd yn cymryd rhan yn y grŵp ymchwil yn dod a llawer mwy i’r bwrdd o ran creadigrwydd a meddwl na dim ond eu cefndir diwylliannol a’u man geni … Ymddiriedaeth, parch a chydraddoldeb yw sail gwir bartneriaeth sydd yn arwain at gydweithredu.
Mae’r prosiect hwn yn rhan o India Cymru, menter ar y cyd rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r British Council sy’n cefnogi cydweithredu a chyfnewidiadau artistig rhwng aelodau o’r proffesiynau creadigol a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru ac India. Mwy o wybodaeth am India Cymru