Mae’n bleser gennym gefnogi’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni. Dyfarnir y wobr ar gyfer cerddoriaeth a gyfansoddwyd yng Nghymru neu gan Gymry ym mhob rhan o’r byd, a dewisir yr enillydd gan banel o arbenigwyr o’r diwydiant.
Mae’r wobr, nawr yn ei wythfed flwyddyn, yn parhau i hyrwyddo amrywiaeth mewn Cerddoriaeth Gymreig, ac yn aml yn amlygu cerddoriaeth cyfrwng Cymraeg.
Mae’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn ased pwysig ar gyfer y sin gerddoriaeth Gymreig, ac yn rhoi llwyfan i gerddorion Cymreig sicrhau perfformiadau ar lwyfan rhyngwladol, ac i gyrraedd cynulleidfa ledled y byd.
Sefydlwyd y wobr yn 2011 gan y DJ Radio Huw Stephens a’r hyrwyddwr a’r gweithredwr John Rostron. Mae enillwyr blaenorol y wobr yn cynnwys Gruff Rhys (2011), Future of the Left (2012), Georgia Ruth (2013), Joanna Gruesome(2014), Gwenno (2015), Meilyr Jones (2016) a’r Gentle Good (2017). Eleni, bydd y seremoni’n cynnwys ail wobr, sef y Wobr Ysbrydoliaeth Gerddoriaeth Gymreig.
Mae nifer o’r artistiaid uchod wedi mynd ymlaen i gael llwyddiant o ganlyniad i gydnabyddiaeth y diwydiant o’r wobr, nid yn unig yng Nghymru ond ar lwyfan yn y DU ac yn rhyngwladol.
Dywedodd DJ Radio 1 Huw Stephens, cyd-sylfaenydd y wobr: “Unwaith eto, dyma restr enwebu eclectig a gwefreiddiol y mae’r beirniaid wedi’i chyflwyno.”
“Mae’r albwms yma wedi canfod cynulleidfa ledled y byd, mae’r cerddorion hynod dalentog yma’n llysgenhadon i Gymru, ac mae’r wobr eleni’n profi fod y lefel o ddawn greadigol mewn cerddoriaeth o Gymru’r uchaf y bu hi erioed.”
Eleni, y 12 albwm sydd ar y rhestr fer yw…
- Alex Dingley ‘Beat the Babble’
- Astroid Boys ‘Broke’
- Boy Azooga ‘1,2, Kung Fu’
- Bryde ‘Like an Island’
- Eugene Capper and Rhodri Brooks ‘Pontvane’
- Catrin Finch and Seckou Keita ‘SOAR’
- Gwenno ‘Le Kov’
- Gruff Rhys ‘Babelsberg’
- Manic Street Preachers ‘Resistance Is Futile’
- MELLT ‘Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc’
- Seazoo ‘Trunks’
- Toby Hay ‘The Longest Day’
Llongyfarchiadau i ennillydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2018: Boy Azooga am yr albwm '1,2, Kung Fu'.