Arddangos Rhyngwladol - rhaglen ymchwil gweithredu.
Mae ein hymchwil diweddaraf i arddangos diwylliant Cymru ar y llwyfan rhyngwladol wedi arwain at nifer o argymhellion.
Yn 2018, comisiynodd British Council Cymru Strategaeth Arddangos Celfyddydau Cymru yn Rhyngwladol: Adroddiad Ymchwil. Ynddo, cyflwynwyd argymhellion i sector y celfyddydau a Llywodraeth Cymru eu hystyried a’u datblygu.
Dau o’r argymhellion hynny oedd:
1. Archwilio platfformau arddangos a digwyddiadau rhyngwladol sy’n bodoli’n barod ac sydd o ddiddordeb i’r sector yng Nghymru.
2. Datblygu rhaglen i gynrychiolwyr rhyngwladol o gwmpas digwyddiad arddangos mawr yng Nghymru.
Ym mis Mawrth 2019, fe ddechreuon ni broses o ymchwil rhyngweithiol i edrych ar sut y gallai Cymru wneud y defnydd gorau o’i hasedau celfyddydol a diwylliannol i hyrwyddo ei diwydiannau diwylliannol a chreadigol. Roedd yr ymchwil gweithredu yma’n cefnogi’r ddau argymhelliad a nodir uchod. Buom yn gweithio gyda’r ymgynghorydd allanol Ruth Garnault ac unigolion ar draws sector y celfyddydau yng Nghymru i gyd-greu rhaglen o ymweliadau â digwyddiadau rhyngwladol ac yna gwerthuso a chyflwyno’r canlyniadau.
Mae’r Ymchwil Gweithredu ar Arddangos Rhyngwladol yn archwilio effeithiolrwydd presenoldeb Cymru mewn gwahanol ddigwyddiadau rhyngwladol drwy gefnogi ymarferwyr o Gymru i fynychu digwyddiadau ac adrodd yn ôl ar werth y profiadau hynny. Wrth fuddsoddi mewn arddangos rhyngwladol, credwn y bydd Cymru’n datblygu enw da a rhwydweithiau rhyngwladol, a meithrin partneriaethau tymor hir gyda gwledydd penodol er budd y ddwy ochr, gan arwain at gynhyrchu gwaith ar y cyd rhwng Cymru a’r byd.
Mae ein hymchwil i arddangos rhyngwladol wedi cynhyrchu’r argymhellion canlynol:
Mae’r ymchwil yn cyflwyno nifer o argymhellion ar gyfer gweithredu’n fwy effeithiol wrth fynychu digwyddiadau arddangos i godi proffil rhyngwladol Cymru.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Sicrhau bod cynrychiolwyr yn paratoi’n ddigonol.
- Sefydlu protocolau am yr hyn a ddisgwylir gan gynrychiolwyr yn gyfnewid am gefnogaeth ariannol.
- Cydweithio gyda chyrff eraill i ddarparu cyfleoedd mentora, hyfforddiant a datblygu sgiliau.
- Adolygu’r dewis o ddigwyddiadau arddangos yn gyson.
- Anfon yr un bobl i ddigwyddiad fwy nag unwaith.
- Anfon mwy nag un person a chwestiynu’r rhesymau dros anfon mwy na thri yn drylwyr.
- Cynyddu aelodaeth cwmnïau ac unigolion o Gymru o rwydweithiau byd eang a rhwydweithiau’r Undeb Ewropeaidd.
Blwyddyn dau – gweithio i ddatblygu rhwydweithiau arddangos digidol rhwng Cymru a gwledydd Affrica Is-Sahara
Gwnaed yr ymchwil cychwynnol yma cyn i Covid-19 gydio, felly bydd y cynlluniau ar gyfer cymal nesaf y gwaith yn cymryd y cyfyngiadau hynny i ystyriaeth. Byddwn yn ffocysu ar fentrau digidol ac ymateb sector y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol i’r pandemig, yn ogystal â mapio cyfleoedd newydd a dulliau arloesol newydd o rannu ac arddangos gwaith ac ymarfer artistig.
Byddwn yn gweithio gyda gwledydd yn Affrica Is-Sahara i archwilio cyfleoedd yn ogystal â gweithio gydag artistiaid i’w galluogi i feithrin cysylltiadau ar-lein yn hytrach na theithio i gwrdd â’i gilydd. Byddwn hefyd yn cefnogi artistiaid a sefydliadau diwylliannol i fynychu digwyddiadau, gwyliau a sioeau arddangos ar-lein. Bydd disgwyl i fynychwyr digwyddiadau ar-lein gloriannu eu profiadau ac adrodd yn ôl gan nodi pa rai o’r adnoddau digidol niferus sydd ar gael a fu’n fwyaf gwerthfawr yn ystod yr ymchwil gweithredu.
Bydd galwad agored yng ngwanwyn 2021 yn gwahodd aelodau sector y celfyddydau yng Nghymru i geisio am gyllid i gydweithio’n ddigidol gyda’u cyfoedion yng ngwledydd Affrica Is-Sahara.
Gallwch lawrlwytho crynodeb o’r adroddiad isod.