Cerddorion yn perfformio ar y llwyfan
Gŵyl gerddoriaeth Sŵn, Caerdydd 2016  ©

Swn 

8 Rhagfyr 2016

Mae Caerdydd Creadigol wedi cyhoeddi’r adroddiad Caerdydd: Prif Ddinas Greadigol - mapio Economi Creadigol Caerdydd 2016.

Mae’r gwaith yma’n eistedd ochr yn ochr â sefydlu’r Rhwydwaith Caerdydd Creadigol, a lansiwyd ym mis Hydref 2015 ac a fu’n chwilio am yr un math o ddata er mwyn sefydlu cysylltiadau ar draws economi creadigol Caerdydd a rhanbarth y ddinas.

Cefnogir Caerdydd Creadigol gan dîm Economi Creadigol Prifysgol Caerdydd mewn partneriaeth ag aelodau sefydlu Canolfan Mileniwm Cymru, BBC Cymru Wales a Chyngor Caerdydd.

Lansiwyd yr adroddiad, sydd wedi’i gefnogi gan British Council Cymru yn ystod symposiwm Caerdydd Creadigol ar 8 Rhagfyr. Roedd y digwyddiad yn tynnu ar yr hyn a ddysgwyd gan y prosiect Caerdydd Creadigol ochr yn ochr â’r themâu a’r tueddiadau sy’n dod i’r amlwg yn sgil ymchwil ehangach a safbwyntiau meddylwyr blaenllaw ar yr economi greadigol. Roedd y digwyddiad hwn wedi’i ddylunio i archwilio’r hyn sydd yn gwneud dinas greadigol ac i ddatblygu’r sgwrs mae Caerdydd yn ei chael gyda dinasoedd creadigol eraill. 

Nodir rhai o ganlyniadau adroddiad Caerdydd: Prif Ddinas Greadigol - mapio Economi Creadigol Caerdydd 2016 isod:

  • 2,788 o bobl, cwmnïau a sefydliadau creadigol yn rhanbarth Caerdydd wedi’u hadnabod
  • Y rhan fwyaf o gwmnïau, busnesau a sefydliadau creadigol (58%) wedi’u hymgasglu mewn 5 ward, pob un yn agos neu’n cynnwys, canol y ddinas a Bae Caerdydd,
  • Mae gan Gaerdydd gryfderau penodol mewn pedwar maes yn y sector creadigol:

   1. Cerddoriaeth, Celfyddydau Perfformio a Gweledol

   2.Ffilm, Teledu, Radio & Ffotograffiaeth

   3. Dylunio: Cynnyrch, Graffig & Ffasiwn

   4. Crefftau

·      

Rhannu’r dudalen hon