If Shakespeare remains, even today, a small part of the Welsh question, Wales has always been a big part of the Shakespeare question. […] the plays attest to a lifelong awareness of and engagement with the Principality
Willy Maley a Philip Schwyzer
Mae cymeriadau a lleoliadau Cymreig yn ymddangos mewn sawl un o ddramâu Shakespeare.Yma, mae'r academydd a chyfarwyddwr, David Cottis, a'r awdur a chynhyrchydd, Jessica Mordsley, yn archwilio Cymru a Shakespeare.
Cymeriadau Cymreig
Mae William Shakespeare heddiw yn gymaint o eicon o Seisnigrwydd fel ei bod yn hawdd anghofio pa mor aml y mae ei ddramâu yn delio â Chymru, a'r ffordd y mae Cymru yn ymddangos i'w chymydog mwy o faint. Mae'r dramâu Hanes, a ysgrifennwyd o dan linach rannol Gymreig y Tuduriaid, yn dangos llinyn cyson o gymeriadau Cymreig, o bosibl wedi'u hysgrifennu ar gyfer yr un actor - y Capten Cymreig yn Richard II, y mae ei newid mewn teyrngarwch yn nodi dechrau cwymp y brenin, y Glendower ffyrnig, cyfriniol yn Henry IV, Part 1, sy'n honni y gall 'call spiritis from the vasty deep', a Fluellen (fersiwn y dramodydd o'r enw Cymraeg Llywelyn) yn Henry V, yn gymeriad balch a chenedlaetholgar, gyda'i siarad cyson am reolau a'i wybodaeth helaeth am ryfeloedd. Ar ôl brwydr Agincourt, mae Fluellen yn pwysleisio gwreiddiau Cymreig y Brenin a aned yn Nhrefynwy:
FLUELLEN
Your majesty says very true; if your majesties is remembered of it, the Welshmen did good service in a garden where leeks did grow, wearing leeks in their Monmouth caps; which, your majesty know, to this hour is an honourable badge of the service; and I do believe your majesty takes no scorn to wear the leek upon Saint Tavy’s day.
KING HENRY V
I wear it for a memorable honour;
For I am Welsh, you know good countryman.
Mae Henry IV, Part I yn cynnwys merch Glendower, Lady Mortimer, cymeriad sy'n siarad yn Gymraeg yn unig, a'i gŵr sydd ond yn siarad Saesneg, enghraifft eithafol o ddiddordeb y dramodydd mewn materion cyfathrebu a gwahaniaeth diwylliannol. Ni nodir llinellau'r cymeriad, sy'n awgrymu bod o leiaf un aelod o gwmni Shakespeare yn siarad Cymraeg. Mae'n debyg nad oedd ef ei hun yn siarad Cymraeg, er iddo glywed yr iaith efallai pan oedd yn blentyn; mae'n bosibl bod ei fam-gu ar ochr ei fam, Alys Griffin, yn siarad Cymraeg, ac mae'r bardd dwyieithog Gwyneth Lewis, sydd wedi cyfieithu The Tempest yn credu (efallai ychydig yn rhamantaidd, fel y mae hi ei hun wedi cyfaddef) bod ffurfiau'r gân yn ei ddramâu yn dangos cynefindra â barddoniaeth Gymraeg.
Mae Fluellen a Glendower yn adlewyrchu barn oes Elisabeth am Gymru, fel sy'n gysylltiedig â chyfriniaeth a dysgu - roedd deallusion blaenllaw oes Elisabeth fel yr ysgolhaig a'r consuriwr John Dee yn aml yn gorbwysleisio eu llinach Gymreig eu hunain. Efallai fod dehongliad Shakespeare o'r cymeriadau hyn hefyd wedi adlewyrchu ei brofiad ei hun; yn ogystal â'i famgu, y person dylanwadol Cymreig arall yn ei blentyndod oedd ei ysgolfeistr Thomas Jenkin. Nid yw'n gyd-ddigwyddiad bod gan y cymeriadau Cymreig yn y dramâu bersonoliaeth ychydig yn amleiriog a phedantig yn aml; yr un mwyaf amlwg yw'r athro Hugh Evans yn The Merry Wives of Windsor, sy'n siarad Saesneg a Lladin gydag acen Gymreig gref, ac ar un adeg fe'i gwelir yn rhoi prawf i fachgen ysgol ifanc a'i enw, yn arwyddocaol, yw William.
Tirweddau Cymru
Mae tirweddau Cymru hefyd yn ymddangos yn y dramâu Hanes a Rhamant - mae Richard II yn trosglwyddo ei goron yng Nghastell Fflint, mae'r gwrthryfelwyr yn erbyn Henry IV yn cyfarfod yn nhŷ'r Archddiacon ym Mangor, a gosodir Cymbeline yn rhannol yn Aberdaugleddau a'r wlad o amgylch, a ddisgrifir mewn un cyfarwyddyd llwyfan fel 'a mountainous country with a cave'. Mae'r dirwedd wyllt hon yng Ngorllewin Cymru yn gartref i'r tywysogion alltud Guiderius ac Arviragus, ac mae o natur gyntefig gyda llysoedd llygredig San Steffan a Rhufain yn gefndir i'r cyfan.
Mae tirweddau mwy anghysbell Cymru wedi cael eu defnyddio hefyd ar gyfer addasiadau ffilm: defnyddiwyd Gwynedd i gynrychioli'r Alban ganoloesol yn ffilm Roman Polanski, Macbeth (1971), ac yn Richard III a ffilmiwyd gan y BBC yn 2016, gyda Ben Whishaw a Rory Kinnear, defnyddiwyd Sir Benfro yn bennaf ar gyfer y lleoliadau a oedd yn cynnwys Eglwys Gadeiriol Tyddewi a Chastell Penfro. Dywedodd cyfarwyddwr y ffilm, Rupert Goold, 'There's something very special about the cathedrals, the landscapes. It’s very difficult to find landscapes that can pass for the late 14th century, where there weren’t any fields, any pastures. So we were right down to the corner of Wales.’
Dengys dyfyniad Goold farn Sais am Gymru - yn agos a phell ar yr un pryd, o ran lleoliad ac amser. Yn hyn o beth, mae'n adlewyrchu barn Shakespeare ei hun am Gymru - mae ei gymeriadau a'i leoliadau Cymreig yn debyg ond yn estron ar yr un pryd, gan adlewyrchu perthynas sy'n parhau i fod yn amwys.