Daeth pedwar cerddor o fand jazz/gwerin blaenllaw Cymru Burum ynghyd â thri cherddor o India sy’n ceisio chwalu ffiniau’r genre i greu Khamira.
Mae eu cerddoriaeth yn plethu, alawon gwerin o Gymru a cherddoriaeth o draddodiad clasurol India i greu sain unigryw.
Daeth Khamira ynghyd gyntaf yn 2015, pan aeth y band ar daith drwy India yn chwarae mewn sawl lleoliad, gan gynnwys Gŵyl Jazz Goa, Gŵyl Jazz Kolkata, Bangalore a Delhi Newydd.
Yn 2016, daeth y band ynghyd i recordio eu halbwm cyntaf yn Stiwdios Red Kite ger Llanymddyfri. Rhyddhawyd yr albwm ym mis Mai 2017 gan ddenu canmoliaeth eang, gyda sawl adolygiad pedair seren o wasg y byd Jazz.
Yn 2017 perfformiodd Khamira yn Wythnos Gerddoriaeth Seoul, De Corea. Ym mis Mai 2017, fel rhan o dymor India Cymru, aeth Khamira ar daith o amgylch Cymru i gynnal naw perfformiad, gan orffen â pherfformiad yng Ngŵyl y Gelli pan werthwyd pob tocyn. Bydd y grŵp yn mynd ar daith yn India unwaith eto ddechrau 2018.
Mae’r prosiect hwn yn rhan o India Cymru, menter ar y cyd rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r British Council sy’n cefnogi cydweithredu a chyfnewidiadau artistig rhwng aelodau o’r proffesiynau creadigol a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru ac India. Mwy o wybodaeth am India Cymru