Bydd Diwrnod Shakespeare Lives mewn Ysgolion yn cael ei nodi mewn ysgolion ledled y byd gan ddisgyblion o bob oedran ar ddydd Gwener 2 Rhagfyr 2016.
Hoffwn ein gwahoddiad chi a’ch ysgol ymuno â ni mewn dathliad byd-eang o Shakespeare ar achlysur 400 mlwyddiant ei farwolaeth.
Sut y gallwch chi gymryd rhan?
- Lawrlwytho ein 20 syniad am weithgareddau i’ch ysgol gael ei wneud ar Ddiwrnod Shakespeare Lives mewn Ysgolion (gweler isod).
- Argraffu a thorri’r masgiau Shakespeare allan i fyfyrwyr gael eu gwisgo ar y diwrnod o dudalen 3 o’r pecyn
- Rhannu’r cardiau argraffadwy gyda dyfyniadau Shakespeare o dudalen 6 o’r pecyn 6
- Cynnal gwasanaeth gan ddefnyddio’r cyflwyniadau Powerpoint isod – herio eich myfyrwyr i weld y gwahaniaeth rhwng Twelfth Night a Justin Bieber
- Gweld ein hadnoddau addysgu Shakespeare sydd wedi’u datblygu gyda’r Royal Shakespeare Company
- Sgrinio’r ffilm Macbeth y gellir ei lawrlwytho sydd wedi’i gyllido gan y dorf ac yn cynnwys dehongliadau o ledled y byd o’r ddrama Albanaidd (yn dod yn fuan)
Dywedwch wrthym sut fyddwch chi’n mynd ati i ddathlu Diwnod Skaespeare Lives mewn Ysgolion, p’un a fyddwch yn perfformio areithiau poblogaidd neu ddrama gyfan, yn sgrinio ein ffilm Macbeth, yn gwisgo i fyny fel eich hoff gymeriad, yn rhannu eich hoff ddyfyniadau, yn creu blychau esgidiau o’ch hoff ddrama, neu yn sefyll mewn ystum o olygfeydd enwog. Cofiwch ddefnyddio eich ffurflenni caniatâd (gweler isod) os fyddwch chi’n anfon lluniau neu fideos o blant.
Twitter: @BCWales a @Schools_On_Line #ShakespeareLives
Facebook: @BritishCouncilWales a @SchoolsOnline.BritishCouncil #ShakespeareLives
Instagram: @shakespearelives