three dancers on stage, two men holding woman up
it will come later, ICoDaCo ©

K. Machniewicz

Gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru, mae rhaglen Dyma Gymru  2019 yn cyflwyno gwaith gan un ar ddeg o gwmnïau yn ystod yr ŵyl. Mae’r cwmnïau yma’n cynrychioli’r gorau o fyd y theatr, ysgrifennu newydd, gwaith safle-benodol, syrcas a dawns gyfoes yng Nghymru ac yn adlewyrchu rhychwant ac amrywiaeth y celfyddydau perfformio yng Nghymru.

Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff)

Cwmni: Cynhyrchiad ar y cyd rhwng Carys Eleri a Chanolfan Mileniwm Cymru 
Dyddiadau: 13-18, 20-25 Awst 2019
Amser: 22.40 
Hyd y sioe: 60 munud
Addas ar gyfer oedran: 16+
Ble: Belly Button, Cowgate, Underbelly.

Yn boeth o Ŵyl yr Ymylon yn Adelaide bydd Carys Eleri’n perfformio ei sioe un fenyw, ‘Lovecraft (Not the Sex Shop In Cardiff)’ : Sioe gerdd-gomedi-wyddonol am niwrowyddoniaeth cariad ac unigrwydd. Mae hon yn sioe llawn asbri, yn ddoniol a ffraeth gyda thalpiau o wyddoniaeth ddifyr ar ben y cyfan. Bydd yr aruthrol Carys Eleri yn ein tywys trwy brofiadau ei bywyd cynnar cyn troi ei sylw at: chwant, bywyd, unigrwydd, power-ballad ysgubol o’r ‘80au a holl ystyriaethau rhoi proffil ar Tinder.

Dyma gyfle hynod i ddarganfod sut mae cariad yn gweithio y tu fewn i bob un ohonom ni, pam ei fod yn ein gyrru i wneud pethau gwallgo a pham mai cwtcho yw’r ateb.

@thecentre / @caryseleri / #Lovecraft

Bardd

Teitl y Sioe: Bardd
Dyddiadau: 16-18 Awst 2019
Amser: 15:00 
Hyd y sioe: 55 munud
Addas ar gyfer oedran: 8+
Ble: Sweet 2, Grassmarket 

Mae Bardd yn cyflwyno plethiad unigryw o Gerddoriaeth Fyd-eang Ddwyieithog wrth hudo’r gynulleidfa ar daith anhygoel o Wreiddiau Traddodiad Barddol Cymru i Ddisgo Ffync Rhyddid.

Yn cyd-gerdded a chyd-weithio ar Bardd mae Martin Daws (Bardd Pobl Ifanc Cymru 2013-16) a Mr Phormula (Pencampwr Dwbl Bitbocsio Cymru). Maen nhw’n adeiladu eu sŵn unigryw trwy gyfuno seiniau telynaidd Martin ar y Kalimba â dewiniaeth dechnegol Bitbocsio Mr Phormula; caiff hyn ei chwyddo gan seiniau’r offerynwyr amryddawn, Neil Yates (Trwmped/Bâs) a Henry Horrell (Allweddellau/Gitâr) .

Mae Bardd yn anelu i “..ddod â phopeth sydd gyda ni at ei gilydd yn un grŵf bendigedig: offerynnau, ieithoedd, arddulliau cerddorol – Hip Hop, Jazz, Celtaidd – mae’r cyfan yno, i gyd gyda’i gilydd”.

@BigBarddByd / @martindaws / @MrPhormula / #BigBarddByd

For All I Care

Cwmni: National Theatre Wales
Dyddiadau: 31 Gorff, 1-4, 6-11, 13-18, 20-25 Awst 2019
Amser: 13:30
Hyd y Sioe: 60 munud
Yn addas ar gyfer oedran: 14+
Ble: Summerhall – Y Brif Neuadd

Clara a Nyri. Dwy fenyw wahanol iawn. Dau fywyd cymhleth. Ac mae’r ddwy’n cael diwrnod anodd. Mae Nyri, sy’n nyrs iechyd meddwl, wedi deffro wrth ochr dyn tipyn iau na hi, ac mae effeithiau noson fawr yn dyrnu yn ei phen. Yn y cyfamser, mae llygad Clara yn mynnu wincio ac mae’n methu cofio os ydy wedi cymryd ei meddyginiaeth.

Rhaid i Nyri gyrraedd Ysbyty Glyn Ebwy (gan alw yn Greggs ar y ffordd), ac mae Clara’n ceisio osgoi’r holl arwyddion sy’n ei hannog (mewn modd braidd yn ddigywilydd) i ladd ei hunan, fel y gall hi droi ei sylw at y rhestr siopa sydd ganddi ar gyfer y Diafol.

Mae cysylltiadau anisgwyl yn plethu a gwrthdaro yn y sioe un fenyw, fyrlymus a theimladwy o ddoniol hon gan Alan Harris.

@NTWtweets / #NTWCare

Ned and the Whale

Cwmni: Flossy and Boo 
Dyddiadau: 16 – 18 Awst 2019
Hyd y Sioe: 45 munud
Yn addas ar gyfer oedran: 3 oed + (ond croeso i bawb)
Ble: the Space @ Symposium Hall - The Space Tent 

Mae hanes hudolus Ned a’r Morfil yn tasgu a rholio fel tonnau’r môr - yn llawn antur a chyffro. Ond does dim dianc rhag y ffaith ryfedd...bod arogl pysgod ym mhob man. Er ei fod yn fachgen craff, dydy Ned ddim yn teimlo’n ddewr achos mae ei chwaer yn hen gnawes gas. Mae hi’n rhaffu celwyddau dychrynllyd am Deyrnas yr Ysbiwyr ac yn codi bwganod ym mhen Ned.

Mae Ned and The Whale yn stori forwrol, arwrol ac aruthrol. Dewch ar daith dros y tonnau i helpu Ned i ffeindio ei ddewrder a datgelu’r gwir am Deyrnas yr Ysbiwyr. Plymiwch i mewn a gadewch i ddull adrodd straeon rhyfedd a rhyfeddol Flossy and Boo eich cario a’ch hudo.

@flossyandboo / @flossyandbootheatre / #nedandthewhale

The Populars

Cwmni: Theatr Volcano 
Dyddiadau: 20 - 25 Awst 2019
Amser: 21:20
Hyd y Sioe: 60 munud
Yn addas ar gyfer oedran: 14 +
Ble: Summerhall (The Library Gallery) 

Dyma gyfle arbennig i dreulio amser gydaThe Populars – pedwar o berfformwyr sy’n cynnal parti dawns ar gyfer cenedl ranedig. Maen nhw’n edrych tua’r dyfodol ac yn pendroni sut le fydd yno ar ôl i ni gyrraedd. Mae gyda nhw gwestiynnau i chi, pethau’n troi a throsi yn eu pennau, a rhestr o ganeuon gwych i’w chwarae – caneuon i brocio a chyffroi atgofion a ffibrau’r cyhyrau. Rhannwch eich barn gyda nhw am yr awyrgylch maen nhw wedi ei greu, dwedwch wrthyn nhw am y tro diwethaf y gwnaethoch chi ddawnsio nes bod eich calon yn carlamu a dewiswch pa un ohonynt, yn eich barn chi, yw’r mwyaf cŵl. Byddwch yn barod am chwys, secwins a darlun gobeithiol o’r pethau sy’n ein huno a’n rhannu mewn cyfnod mor ansicr.

@volcanoUK / #ThePopulars

Neither Here Nor There

Cwmni: Jo Fong & Sonia Hughes 
Dyddiadau: 16 – 25 Awst 2019
Amser: 19:15
Hyd y Sioe: 90 munud
Yn addas ar gyfer oedran: 16+ 
Ble: Summerhall – Courtyard

Pryd oedd y tro diwethaf i chi neilltuo amser am sgwrs? Mae bywyd yn hurt o brysur, ac mae cyswllt dynol go iawn yn teimlo fel rhywbeth mwy a mwy prin. Yn eu darn o gelfyddyd fyw, Neither Here Nor There, mae’r artistiaid Sonia Hughes a Jo Fong yn hyrwyddo gwerth ac effaith arafu a neilltuo amser i gael sgyrsiau go iawn. Mae cynulleidfaoedd wedi disgrifio’r perfformiad fel ‘profiad o’r galon a phrofiad sy’n ysbrydoli’. Mae’n berfformiad sy’n cymell lleisiau, safbwyntiau a bywydau gwahanol i ofyn y cwestiwn, ‘sut allwn ni fyw gyda’n gilydd?’. Ymunwch â Sonia a Jo ar daith gerdded fer ac yna am sgyrsiau sy’n annog ‘mentro arni’ (CCQ Magazine) ac ildio i’r golwg adfywiol ac agos-atoch yma ar rym cyfathrebu.

@NHNThere / @jofong / @chaptertweets / #NeitherHereNorThere

It Will Come Later

Cwmni: iCoDaCo 
Dyddiadau: 16 -19, 21-25 Awst 2019
Amser: 13:00
Hyd y Sioe: 60 munud
Yn addas ar gyfer oedran: 8+
Ble: Zoo Southside - main house 

Gwaith dawns gyfoes ddi-rodres, gwefreiddiol a chignoeth. Caiff ei berfformio ar set sy’n cylchdroi – yn drochfa o olau sy’n efelychu cylch golau cyfnewidiol y dydd wrth i’r byd droi. Yma, mae chwech o gyrff yn gwthio yn erbyn ei gilydd mewn llif di-dorr o drawsffurfio. Rhoddir ymdrech ddi-ildio i’r eiliadau lleiaf wrth i’r artistiaid ddyfalbarhau er lles pawb ac wrth geisio nod cyffredin; ac efallai, gyda’i gilydd, y byddan nhw’n cyrraedd rhywle. Mae pob eiliad yn cyfrif ac mae gwerth i bob ymdrech.  

@gwynembertondan / #icodadco / #itwillcomelater

On the Other Hand, We’re Happy

Cwmni: Theatr Clwyd a Paines Plough
Dyddiadau: 16-19, 21-24 Awst 2019
Hyd y Sioe: 70 munud
Yn addas ar gyfer oedran: 14+
Ble: Roundabout @ Summerhall

Mae tad sengl yn cwrdd â’i ferch fabwysiedig am y tro cyntaf. Rai dyddiau’n ddiweddarach, mae’n cytuno i gyfarfod â’i mam fiolegol. Wrth i’w bydoedd gwahanol iawn gwrdd, a fydd yr hyn sy’n gyffredin rhyngddynt yn drech na’u gwahaniaethau?                                                                                                     
Un cyfarfod. Ond bydd tri bywyd yn newid am byth.                                                                             

Mae On the Other Hand, We’re Happy yn ddrama dyner, ddoniol a gobeithiol am fod yn fam pan mai eich enw chi yw Dad. Ysgrifennwyd y ddrama gan Daf James - dramodydd gwobrwyedig, cyfansoddwr a pherfformiwr; roedd ei ddrama gyntaf, Llwyth (Tribe), yn llwyddiant ysgubol yn ogystal â throbwynt a newidodd hanes theatr yn y Gymraeg am byth.

@ClwydTweets / @painesplough / #ONTHEOTHERHAND

Daughterhood

Cwmni: Theatr Clwyd a Paines Plough
Dyddiadau: 16,17,19,21-23,25 Awst 2019 
Hyd y Sioe: 70 munud
Yn addas ar gyfer oedran: 14+
Ble: Roundabout @ Summerhall

Fe arhosodd un chwaer adref i ofalu am Dad. Aeth y llall allan i’r byd “i wneud gwahaniaeth”. Wedi dychwelyd i gartref eu plentyndod am y tro cyntaf ers blynyddoedd, maen nhw’n darganfod bod mwy rhyngddyn nhw na’r 10 mlynedd o wahaniaeth yn eu hoedrannau. Mae gagendor rhyngddynt sydd bron yn amhosib i’w bontio. Ac mae’r naill lawn mor benderfynnol â’r llall o roi gwybod i’w chwaer pwy yn union sydd wedi cymryd y camau cywir ar hyd y ffordd. Drama hyfryd a ffyrnig am y clymau sy’n ein rhwymo a sut mae angen eu torri weithiau.

Ysgrifennwyd ‘Daughterhood’ gan Charley Mills. 

@ClwydTweets / @painesplough / #DAUGHTERHOOD

Dexter and Winter’s Detective Agency

Cwmni: Theatr Clwyd a Paines Plough 
Dyddiadau: 17,18,24,25 Awst 2019 
Amser: 11:20
Hyd y Sioe: 50 munud
Yn addas ar gyfer oedran: 5+
Ble: Roundabout @ Summerhall

Wedi cyfres o gamddealltwriaethau am ei chysylltiad â lladrad gemau gwerthfawr, mae mam Dexter yn y carchar. Nawr, rhaid i Dexter a’i ffrind gorau, Winter, brofi ei bod yn ddieuog. Felly, ffwrdd â nhw ar antur fawr i ddatgelu’r gwir a rhyddhau mam Dexter. Ond mae eu gwaith ditectif yn arwain at ddarganfyddiadau anisgwyl iawn. Mae Dexter and Winter’s Detective Agency yn stori antur wallgo i’r teulu cyfan gan un o sgwennwyr y cyfresi poblogaidd, ‘Rastamouse’, ‘Apple Tree House’ a ‘Swashbuckle’, ar Cbeebies.

@ClwydTweets / @painesplough / #DETECTIVEAGENCY

Rhannu’r dudalen hon