Mae cwmnïau theatr a dawns o Gymru yn barod am ymweliad ardderchog arall â gŵyl gelfyddydau fwyaf y byd, sef Gŵyl yr Ymylon yng Nghaeredin.

Cynhelir Gŵyl yr Ymylon yng Nghaeredin rhwng 4 – 28 o Awst 2019 ac mae’n gyfle aruthrol i gwmnïau celfyddydau perfformio o Gymru i gyflwyno eu gwaith i gynulleidfaoedd newydd ac ennill cydnabyddiaeth ryngwladol am eu gwaith.

Dyma’r cwmnïau o Gymru sy’n cyflwyno eu gwaith yn annibynnol yng Nghaeredin

 

How To Be Brave

Cwmni: Dirty Protest

Canolfan:
 ROUNDABOUT @Summerhall 
Dyddiadau: 31 Gorff,  2-5, 7-12, 14-19, 21-25 Awst 2019
Hyd y Sioe: 60 munud
Yn addas ar gyfer oedran: 14+ (Iaith Gref + Rhegi)

Pan roedd hi’n ifanc, roedd Katie yn ddewr - yn dringo coed a gwibio’n rhy gyflym ar feiciau. Bellach mae Katie’n fam, ac mae angen gwahanol fath o ddewrder arni. Mae Katie’n benderfynol y bydd ei merch yn cael cadw’r un hud a lledrith tanbaid a fu ganddi hi yn ei hieuenctid. Felly, i ffwrdd â hi, yn llawn pwrpas rownd Casnewydd ar feic BMX wedi’i ddwyn, yng nghwmni plismones â gwallt blêr a cholomen mewn bag. Mae drama un fenyw Sian Owen yn edrych ar yr hyn sydd ym mêr ein hesgyrn a sut mae bod yn ddewr pan fo’ch byd yn chwalu o’ch cwmpas.

‘From the company behind Fringe hit, Sugar Baby’ **** (Scotsman, Times, Stage)

@DirtyProtest

Adrift

Cwmni: Clock Tower

Canolfan:
 Venue 13
Dyddiadau: 10-11, 13-17 Awst 2019
Hyd y sioe: 50 munud                                                                                                                        
Addas ar gyfer oedran: 18+ (golygfeydd o natur rywiol / rhegi)                                                                                                     

Wedi methiant eu gwrthryfel ar fwrdd llong, mae tri morwr yn cael eu taflu ar fympwy’r tonau ar rafft fach bren ynghanol Cefnfor yr Iwerydd: Cymro, sy’n ddoctor ac yn gandryll, Is-gapten y llong sy’n Sais ac yn byw ar bigau’r drain, a gwas bach y llong o Dde-orllewin Lloegr. Rhaid iddyn nhw benderfynu beth i’w wneud: Aros ble maen nhw a gobeithio y daw rhywun i’w hachub, neu badlo am eu bywydau cyn iddyn nhw lwgu, colli arni’n llwyr a marw’n araf wth i Ysbryd y Cefnfor wylio drostyn nhw. Mae’r sioe yma’n cynnwys gwenyn, pegiau dillad a chyfeiriadau eitha rhywiol at spaghetti. 

@clocktower_tc

Shreds

Cwmni: The Unknown Theatre Company

Canolfan:
Venue 13
Dyddiadau: 10, 11, 13-17 Awst 2019 
Hyd y sioe: 60 munud 
Addas ar gyfer oedran: 14+

Whitechapel, 1888. Dydy hwn ddim yn le nac amser i fenyw fod allan ar ei phen ei hun wedi nos. Mae yna seicopath yn cerdded y strydoedd; gallai fod yn llawfeddyg, yn aelod o’r Teulu Brenhinol neu efallai’r dyn llawn dirgelwch yr ydych wedi syrthio mewn cariad ag ef. Does dim byd yn sicr. Beth all merch dlawd sy’n gweithio ar y strydoedd ei wneud heblaw troi at ganu a dawnsio? Drama gerdd llawn ias a chyffro yn seiliedig ar ddigwyddiadau gwir ac enbyd y flwyddyn honno. 

@unknowntheatre

The Land of My Fathers and Mothers and Some Other People

Cwmni: Rhys Slade-Jones mewn cydweithrediad â’r Pleasance a COMMON                                                                           
Canolfan: Cwrt y Pleasance – Bunker One
Dyddiadau: 31 Gorff , 1-26 Awst 2019
Hyd y sioe: 60 munud
Addas ar gyfer oedran: 16+                                                                                                     

Mae ‘The Land of My Fathers and Mothers and Some Other People’ yn sioe un dyn ac yn wledd o ganu a dawnsio sy’n ail-greu’r hyn a sgwenodd mam Rhys 40 mlynedd yn ôl: Sioe gabaret wallgo sy’n gymysgedd bendigedig o stand-yp, dawns a chyd-ganu cynulleidfaol hen-ffasiwn sy’n rhoi bywyd newydd i straeon ei fam ac atgyfodi clwb rygbi Treherbert.

The Last Bubble

Cwmni: Black Light Theatre Company
Canolfan: theSpace ar North Bridge – Fife Theatre   
Dyddiadau:  2-10, 12- 17 Awst 2019
Hyd y sioe: 45 munud 
Addas ar gyfer oedran: 14+

Mae ‘The Last Bubble’ yn adrodd stori Rhys, cefnogwr pêl-droed brwd sydd ar ganol brwydr gyda chancr, a’i frawd Callum, sy’n treulio’i amser yn ystod y stori’n creu prosiect cofiadwy am rywbeth sy’n agos iawn i’w galon. Mae’r stori’n cynrychioli’r heriau sy’n wynebu Rhys a sut mae ei frwydr yn effeithio arno ac ar y rheini sydd o’i gwmpas. Trwy gydol y stori rydyn ni’n gweld y berthynas rhwng gwahanol gymeriadau ar brawf wrth iddyn nhw geisio ffeindio eu ffyrdd eu hunain o ddygymod â brwydr Rhys.

@TCBlackLight / #TheLastBubble

Unicorns, Almost

Cwmni: The Story of Books
Canolfan: Army @ The Fringe mewn cydweithrediad â Summerhill – The Rec Room  
Dyddiadau: 13 -18, 20 - 25  Awst  2019
Hyd y sioe: 60 munud 
Addas ar gyfer oedran: 12+
  
Drama un dyn gan Owen Sheers yw ‘Unicorn, Almost’. Mae’n olrhain hanes bywyd a gwaith un o feirdd Yr Ail Ryfel Byd, Keith Douglas. Gadewch i set ymdrochol a’r ‘perfformiad bendigedig’ (Margaret Atwood) gan Dan Krikler eich cludo i fyd Keith Douglas. Cawn ei ddilyn o’i blentyndod a thrwy bedwar dyweddïad i’w gyfnod yn ymladd yn ymgyrch Diffeithwch y Gorllewin, a’i farwolaeth dridiau wedi D-Day yn 24 oed. Dyma stori bardd yn datblygu ar garlam a’i ymdrechion taer i weld ei eiriau mewn print cyn i amser ei drechu. Cyfarwyddwyd gan John Retallack. Cynhyrchwyd gan The Story of Books.

@owensheers / @thestoryofbookshq

The Wrong Ffion Jones

Cwmni: Ffion Jones
Canolfan: UnderBelly, Cowgate
Dyddiadau: 1 - 11, 13 - 25 August 2019
Hyd y sioe: 60 munud 
Addas ar gyfer oedran: 12+

Roedd Cymru’n arfer bod yn fyd-enwog am gynhyrchu glo, copr a dur. Bellach mae ei diwydiannau wedi dirwyn i ben. Yr unig beth sydd gyda ni ar ôl i’w werthu yw ‘Balchder Cymreig’, ac mae hwnnw’n prysur ddiflannu hefyd yn nwylo’r dynion busnes pwerus, Bevan, Bevan, Bevan a’i gwmni. A fydd Ffion yn dewis gwerthu ei henaid er mwyn cael bod yn wyneb cyhoeddus i ‘Walesland’, neu a fydd hi’n ddigon dewr i herio’r plentyn rhyfedd heb drowsus sy’n mynnu ymddangos yn ei breuddwydion? Comedi am hunaniaeth, cyfalafiaeth a rebel damweiniol.

@FfionJones88 / #WRONGFFION

Stanley

Cwmni: Conor Clarke McGrath
Canolfan: theSpace on North Bridge – Fife Theatre
Dyddiadau: 2,3, 5-10,12-17,19-24 Awst 2019
Hyd y sioe: 50 munud
Yn addas ar gyfer oedrannau: 12+

Caewch y drws, trowch y radio i fyny ac anwybyddwch y llais yn eich pen. Mae Stanley’n dwlu ar ‘The Archers’, ac yn casáu gadael y tŷ. Mae hon yn sioe hynod am  ymdrechion un dyn i ffeindio’i le mewn byd sy’n newid yn gyflym o’i gwmpas. Cyn ei bod hi’n rhy hwyr. Cyn iddo gael ei adael ar ôl. Beth am roi’r tegell i ganu?

Mae hon yn ddrama sy’n plygu realiti wrth i ni wylio meddwl un dyn yn chwalu’n ddarnau o’n blaenau.

‘Clarke McGrath throws Bennett against Beckett and emerges with a powerful and distinctive new voice' (Ryan Craig, Dramodydd, National Theatre).

Grit

Cwmni: Benjamin McCann
Canolfan: Venue 13
Dyddiadau: 10-11, 13 - 17 Awst 2019
Hyd y sioe: 45 munud
Addas ar gyfer oedrannau: 12+

Mae hunllef enbyd wedi cydio yn Grit. Mae’r ofn yn gwasgu mor dynn, dyw e ddim yn gallu teimlo’r cerrig wrth iddo gerdded yn droednoeth. Camwch i fyd newydd gyda Grit - drama gyntaf Benjamin McCann yng Ngŵyl yr Ymylon yng Nghaeredin.

Rhannu’r dudalen hon