Mae’r British Council yn cynnal Menter Arddangos Caeredin bob dwy flynedd. Dyma’r cyfle uniongyrchol mwyaf i gwmnïau theatr o’r Deyrnas Unedig gyflwyno eu gwaith i hyrwyddwyr rhyngwladol. Mae’r rhaglen yn cynnwys gwaith newydd sy’n adlewyrchu’r gorau o fyd theatr a dawns gyfoes gan adlewyrchu rhychwant ac amrywiaeth celfyddydau perfformio Prydain.
Ers cynnal Menter Arddangos gyntaf y British Council ym 1997 mae’r digwyddiad yma wedi creu cyfleoedd i 400 o gwmnïau theatr a dawns i deithio dramor gan feithrin perthnasoedd newydd ac agor marchnadoedd newydd i gelfyddydau perfformio’r Deyrnas Unedig.
Eleni, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, mae dau gwmni o Gymru’n rhan o raglen Menter Arddangos Caeredin y British Council sef: National Theatre Wales, sy’n cyflwyno ‘Cotton Fingers’, a Jonny Cotsen, sy’n cyflwyno ‘Louder Is Not Always Clearer’.