Dyn yn crudo babi ffug
Out of the blue  ©

Kirsten Mcternan

Mae Theatr Iolo, un o brif gwmnïau theatr i blant a phobl ifanc yng Nghymru, wedi creu partneriaeth â ThinkArts, cwmni o India, i fynd a’i chynhyrchiad Out of the Blue i Kolkata yn India, Mae’r cynhyrchiad yn waith ar y cyd rhwng Theatr Iolo a’r cyfarwyddwr Sarah Argent ac wedi ei greu yn arbennig ar gyfer babanod rhwng 6-18 mis oed (a’u rhieni!).

Nid cheir llawer o berfformiadau creadigol i fabanod yn India, ac mae’r cynhyrchiad hwn yn ffordd berffaith o gyflwyno theatr byw i gynulleidfa ifanc. Bydd Out of the Blue ar daith mewn tri lleoliad yn Kolkata ym mis Medi 2017.

Un o amcanion cronfa India Cymru yw creu cysylltiadau a rhannu sgiliau ac arbenigedd. Drwy India Cymru gall Theatr Iolo fynd ati i rannu ei harbenigedd gyda chynulleidfaoedd, ac yn bwysicach oll, gydag artistiaid yn India; drwy gynnig hyfforddiant iddynt yn yr ymarfer artistig newydd ac unigryw hwn.

Yn gynharach eleni, bu Theatr Iolo yn cydweithredu a tri artist o India a gafodd eu dewis i ddatblygu darnau o theatr eu hunain i fabanod. Dangosodd y darnau hyn ddawn anhygoel yn y maes gwaith newydd hwn. Bydd y tri artist yn ymweld â Chaerdydd yng ngwanwyn 2018 er mwyn rhannu eu gwaith â chynulleidfa o Gymru - yn enwedig unigolion o gymunedau Indiaidd - a chysylltu ag artistiaid o Gymru sydd â diddordeb mewn creu theatr ar gyfer y blynyddoedd cynnar.

Bydd Theatr Iolo hefyd yn datblygu arddangosfa weledol newydd ar gyfer plant hŷn.

Dolenni allanol

Rhannu’r dudalen hon