Mae Sisters yn waith cyfoes newydd sbon, wedi’i greu gan National Theatre Wales a Theatr Junoon o India, ac yn ffrwyth dychymyg grŵp o artistiaid o Gymru ac India wrth ymchwilio i’r cysylltiadau o ran eu gwreiddiau a’u hanes.
Mae’r prosiect yn dechrau ganol 2017 fel sgwrs ryngwladol a chydweithrediad rhwng criw o ferched sy’n berfformwyr, artistiaid, dylunwyr a phobl greadigol yn India a Chymru. Ei nod yw ystyried a herio syniadau am yr hyn y mae bod yn ferch Asiaidd yn ei olygu heddiw. Bydd hefyd yn edrych ar hanes diwylliannol mytholeg India a Chymru a rôl y ferch yn y chwedlau hyn.
Bydd yr ystyriaethau cyntaf yn edrych ar y modd y mae ein hanes a’n treftadaeth ddiwylliannol yn cydblethu â’n bywydau cyfoes a’n hunaniaeth fel merched; beth sydd wedi ein siapio a’n harwain ni at y pwynt lle’r ydym ar hyn o bryd? Beth yw bod yn ferch yn India a’r DU heddiw? Beth fu effaith mudo a rhaniad ar ein bywydau a’n teuluoedd? Sut gallwn ni siarad â’n ‘chwiorydd’ pan maent yn byw ar ochr arall y byd?
Penllanw’r prosiect fydd rhannu syniadau, ynghyd â pherfformiadau o’r gwaith sy’n mynd rhagddo ym mis Ebrill 2018 - Darllenwch mwy
Nod y gwaith ar y gweill hwn gan gast o fenywod yn unig, sy'n cael ei wneud gan artistiaid blaenllaw Prydeinig-Asiaidd ac o India, yw dangos sut beth yw bywyd fel menyw de Asiaidd heddiw, lle bynnag y mae hi'n byw; yr adleisiau a'r anghysondebau, y (diffyg) gwelededd a'r gymrodoriaeth, wedi’i adrodd mewn modd chwareus, gonest a llawn hiwmor.
Mae’r prosiect hwn yn rhan o India Cymru, menter ar y cyd rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r British Council sy’n cefnogi cydweithredu a chyfnewidiadau artistig rhwng aelodau o’r proffesiynau creadigol a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru ac India. Mwy o wybodaeth am India Cymru